Fforwm Mynediad Lleol yn chwilio am aelodau newydd

Mae Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, corff cynghori annibynnol sy’n ceisio gwella mynediad cyhoeddus i gyfleoedd hamdden ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn chwilio am aelodau newydd sy’n frwdfrydig am y Parc Cenedlaethol.  

Ar hyn o bryd, mae rhwng 12 a 22 o lefydd gwag ar gael o dan y tymor newydd ar gyfer y Fforwm Mynediad Lleol, sy’n cynghori Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ffyrdd o wella mynediad cyhoeddus, gan ystyried dulliau rheoli tir a chadwraeth, a bydd ei aelodau annibynnol yn cynnwys pobl â phrofiad o gyfleoedd hamdden a thirfeddiannaeth.

Mae’r aelodau annibynnol yn wirfoddolwyr i gyd, ac yn dod o gefndiroedd amrywiol er mwyn mynd i’r afael â’r holl faterion sy’n ymwneud â mynediad i gefn gwlad.

Mae gan y Fforwm dymor o dair blynedd a gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais gyflwyno eu henw i Awdurdod y Parc Cenedlaethol erbyn 20 Hydref.

Meddai Mike Scott-Archer, Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol bannau Brycheiniog: “Mae’r Fforwm yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac yn cysylltu â Fforymau cyfagos ac yn cael ei gynrychioli ar y Fforwm Mynediad Cenedlaethol. Mae ein gwaith diweddar wedi cynnwys arolygu llwybrau caniataol o fewn y parc, gwneud sylwadau ar bolisïau ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i’r dyfodol, cynghori ar newidiadau i hawliau tramwy ac arwain polisi newydd yn y parc i reoli digwyddiadau awyr agored mawr.

“Rhaid i ni sicrhau cydbwysedd rhwng mynediad i gefn gwlad at ddibenion hamdden a’r angen am gadwraeth a rheoli tir, felly mae’n bwysig bod gan aelodau ystod o ddiddordebau sy’n galluogi’r fforwm i gynrychioli barn gytbwys. Rydyn ni am gael aelodau sy’n adlewyrchu pob agwedd ar hyn – gan gynnwys ffermwyr, cadwraethwyr, pobl â diddordeb mewn chwaraeon awyr agored, defnyddwyr anabl a’r rhai sy’n ennill bywoliaeth oherwydd mynediad i’r parc. Mae’r Fforwm yno i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed.

“Trwy ddefnyddio profiad a gwybodaeth aelodau’r fforwm, rydyn ni’n gallu llunio consensws ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i’r afael â materion penodol. Rydyn ni’n gweld bod Awdurdod y Parc yn gwerthfawrogi’r cyngor mae’r Fforwm yn ei roi gan ei fod yn adlewyrchu barn y gymuned gyfan yn hytrach nag un neu ddau o ddiddordebau penodol.”

Meddai’r Cynghorydd Evan Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae gwaith y Fforwm Mynediad Lleol yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn darparu cyngor diduedd gan Aelodau o bob cefndir a diddordeb. Mae’r amrywiaeth hwn, sy’n cynnwys tirfeddianwyr a ffermwyr, ynghyd â’r rhai o gefndir hamdden, yn darparu cyngor heb ei ail o ffynhonnell annibynnol. Byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb mewn mynediad, hamdden neu unrhyw un â phrofiad o reoli tir sy’n cael ei effeithio gan faterion mynediad i wneud cais i fod yn aelod.”

Crëwyd Fforymau Mynediad Lleol ledled Cymru a Lloegr o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 20 Hydref a gall unrhyw un sydd am wneud cais i fod yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Bannau Brycheiniog gael mwy o wybodaeth trwy ffonio Lisa Lloyd ar 01874 620453 neu anfon e-bost at lisa.lloyd@beacons-npa.gov.uk

-DIWEDD-