Pridd cysegredig wedi’i gario i lawr o Ben y Fan ar gyfer digwyddiad i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

Mewn gwasanaeth arbennig a gynhaliwyd yn gynharach y bore hwn (dydd Iau 17 Gorffennaf), cafodd pridd o gopa Pen y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – a gasglwyd yn arbennig ar gyfer digwyddiad i’w gynnal yn Fflandrys ar 16 Awst, lle bydd Cofeb Gymreig ar gyfer y rhai o dras Gymreig a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei dadorchuddio – ei fendithio a’i gario i lawr o’r mynydd.

Heddiw, cafodd pridd o gopa Pen y Fan ei fendithio gan y Parchedig Richard Podger o Blwyf Cantref, a chafodd gwmni’r Cyrnol Kevin Davies, Dirprwy Gomander yn y Frigâd HQ 160, ynghyd â swyddogion o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac aelodau o Bwyllgor y Gofeb Gymreig yn Fflandrys.

Mae atgynhyrchiadau gwreiddiol o sachau tywod y Rhyfel Byd Cyntaf – a roddwyd gan y cwmni Mutoh o Wlad Belg i gydnabod y digwyddiad – wedi’u defnyddio i gasglu pridd o ddau fynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa a Phen y Fan; pridd a fydd yn cael ei osod yn Fflandrys mewn seremoni i gofio’r rhai o dras Gymreig a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd dau blentyn ysgol – un o Ogledd Cymru ac un o’r De – yn siarad yn y gwasanaeth arbennig yn Fflandrys, gan ddisgrifio dau filwr o Gymru a fu farw, cyn gosod y pridd wrth fôn y gofeb.

Dechreuwyd cynllunio’r digwyddiad bedair blynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn llafur cariad i Peter Carter Jones, sef cydgysylltydd arweiniol yr Ymgyrch Cofeb Gymreig yn Fflandrys. Mae draig efydd a gomisiynwyd yn arbennig wedi’i gosod ar ben y Gromlech, a bydd hi’n cael ei dadorchuddio gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol mewn gwasanaeth coffa arbennig ar 16 Awst.

Roedd bron i 20 o gynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bresennol yn y fendith i nodi dechrau siwrnai’r pridd dros y môr. Yn bresennol hefyd roedd Robert Reith a Joe Daggart o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru; y Cynghorydd Geraint John, John Cook, Julian Atkins a Jon Pimm o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Sue Brook o Blwyf Cantref, Brigâd 160 Cymru, Paul Silk, aelod o’r Ymgyrch Cofeb Gymreig yn Fflandrys, yr Is-gyrnol Jonah MacGill a’r Uwchgapten Ian Gumm o Frigâd 160 Cymru a’r Uwchgapten Bruce Radbourne o’r Infantry Battleschool.

Wrth siarad ar gopa Pen y Fan, meddai’r Cyrnol Kevin Davies: “Mae hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i ni i gyd ac rydyn ni’n sefyll yma yn anrhydeddu’r rhai a fu farw. Y brwydrau y bu ein milwyr dewr yn rhan ohonynt oedd yr ysbrydoliaeth i mi ymuno â’r fyddin ac mae bod yma ar gyfer bendithio’r pridd hwn ar ddechrau ei daith dros y môr mewn teyrnged i’r rhai a gymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn arbennig iawn.”

Meddai Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n anrhydedd mawr i mi fod yma heddiw. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad coffa mor arbennig ar gyfer y rhai a wnaeth yr aberth eithaf. Mae’n anrhydedd ein bod ni’n gallu gwneud cyfraniad bach hyd yn oed fel rhan o’r rhaglen ehangach o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.”

-DIWEDD-