Plant ysgol lleol yn cynhyrchu taflen am y Parc Cenedlaethol i ysbrydoli ymwelwyr

Yn gynharach fore heddiw (dydd Gwener 18 Gorffennaf), derbyniodd disgyblion Ysgol Gynradd Llangynidr eu taflenni ar gyfer ymwelwyr â’r Parc Cenedlaethol – ‘A Pond for all Seasons’- mewn digwyddiad arbennig yn yr ysgol.

Cafodd y taflenni newydd, a grëwyd gan y plant yn ystod cyfres o weithdai a gynhaliwyd gydol y flwyddyn, eu cyflwyno i’r plant gan Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a Justine Wheatley o Arts Alive.

Gan weithio gyda swyddogion a gwirfoddolwyr o Glandŵr Cymru, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Canal Legacy Group ac Arts Alive, dechreuodd y 24 o blant ysgol ar y prosiect yn ystod yr hydref 2013; buont yn adnabod rhywogaethau ac yn dipio mewn pyllau, a chawsant gyfle i fwynhau’r gamlas a phwll Llangynidr yn ystod y pedwar tymor.

Mae’r fenter yn rhan o Cynghreiriau Gwledig, a ariennir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE ac a ddarperir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Canal Legacy Group. Penododd y prosiect yr awdur creadigol Michael Church a’r darlunydd Rachel Best o Arts Alive i helpu’r plant i ddarlunio’r bywyd gwyllt a’r ffawna a welsant yn y pwll rhwng lociau 66 a 68, yn ogystal â nodi eu sylwadau a’u teimladau ynglŷn â’r gamlas a’i hanes.

Mae eu darluniau a’u hemosiynau wedi’u nodi yn y daflen newydd ‘A Pond for all Seasons’, sy’n ceisio ysbrydoli plant 7-10 oed eraill sy’n ymweld neu ar eu gwyliau ar hyd y gamlas.

Wrth gyflwyno’r taflenni i’r plant, meddai Carol Williams: “Mae’r daflen hon yn gyfraniad gwych at gymuned Llangynidr, ond dylid ei chymeradwyo hefyd am y ffordd y mae hi wedi cipio calonnau a meddyliau’r plant, yn ogystal â’u hymdeimlad o antur. I ni, dyna yw hanfod byw mewn Parc Cenedlaethol. Mae cyllid gan y Cynghreiriau Gwledig wedi gwneud hyn oll y bosibl ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr a’r swyddogion a roddodd gymaint o amser ac ymdrech i greu’r prosiect hwn a fydd yn gwasanaethu Cymuned Llangynidr a’i hymwelwyr am flynyddoedd lawer i ddod.”

Meddai Mrs Karen Jenkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Llangynidr: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n disgyblion ac mae gweld eu holl waith caled yn dwyn ffrwyth wedi rhoi boddhad mawr i mi. Mae’r plant wedi cael amser gwych yn ystod y broses greadigol ac maen nhw wrth eu bodd yn gweld y canlyniadau. Mae cyfrannu at y daflen i ymwelwyr yn fraint fawr ac yn gyfle gwych i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd mewn ffordd arloesol a difyr.”

Meddai’r Cynghorydd Jeff Holmes, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Glandŵr Cymru: “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych o’r dechrau i’r diwedd. Does dim byd gwell na mynd â dosbarth allan i’r awyr agored i ddysgu. Mae’r plant wedi gallu ymgysylltu â threftadaeth hanesyddol y gamlas a phrofi’r ffawna a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Y daflen hon yw’r adnodd perffaith i addysgu ac ysbrydoli ein hymwelwyr ifanc.”

-DIWEDD-