Gŵyl y Mynydd Du

  • Dewch i ddarganfod y gorffennol yng Ngŵyl y Mynydd Du
  • Gweithgareddau difyr AM DDIM i bobl o bob oed
  • Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm

Mae Gŵyl y Mynydd Du yn ddigwyddiad newydd cyffrous a gynhelir ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm yn Chwarel Herbert ar yr A4069 ger Brynaman ac, os yn llwyddiannus, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol ar galendr Chwarel Herbert.

Cynhelir Gŵyl y Mynydd Du yn Chwarel Herbert, ymysg tirweddau diwydiannol y Mynydd Du, gyda golygfeydd ysblennydd o’r cymoedd oddi tano.

Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer ffair haf ychydig yn wahanol. Ynghyd â cherddoriaeth gan Julie Murphy a Ceri Rhys Matthews o’r band gwerin Fernhill, bydd yna amrywiaeth o arddangosiadau, gweithgareddau ymarferol yn cynnwys gwneud gwydr, gwneud sebon, gwaith gof, gwaith lledr a llawer mwy.

Cewch gyfle hefyd i ddarganfod sut mae archeolegwyr yn dysgu mwy am y gorffennol ar ymweliad â chloddiad cymunedol dwy odyn galch ym Mrest Cwm Llwyd. Bydd bws gwennol ar gael o’r meysydd parcio ar yr A4069.

Felly dewch â’ch teulu, eich ffrindiau a phicnic gyda chi er mwyn mwynhau’r dathliad diddorol ac amrywiol hwn o archaeoleg a threftadaeth leol.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, ffoniwch HollyMae Price ar 01558823121 neu anfonwch e-bost at h.steaneprice@dyfedarchaeology.org.uk

-DIWEDD–