Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Cymru yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf

I’w ryddhau 19 Chwefror 2014

Union un flwyddyn yn ôl heddiw, 19 Chwefror 2013, cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei ddynodi’n swyddogol fel y pumed Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn y byd – a’r gyntaf yng Nghymru!

Diolch i ymgyrch dan arweiniad Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, cafodd y Parc statws y Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf yng Nghymru a dim ond y pumed o’i math yn y byd. Ers hynny, mae cyrsiau hyfforddi Awyr Dywyll wedi’u cynnig i fusnesau lleol i’w helpu i elwa ar yr agwedd hon ar y Parc Cenedlaethol, ac o blith y cant a mwy o fusnesau sydd wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant i fod yn Llysgenhadon, mae dros 30 wedi mynd ymlaen i arbenigo a chael statws Llysgenhadon Awyr Dywyll. Ac er mai dim ond blwyddyn yn ôl y dynodwyd y Warchodfa, mae’r manteision economaidd i’w gweld yn barod. Mae trigolion y Parc wedi dangos eu brwdfrydedd a’u hymroddiad mewn perthynas â’r Warchodfa Awyr Dywyll drwy gyflwyno digwyddiadau a gwyliau dan ofal y gymuned a busnesau ledled y Parc.

I’n helpu i ddathlu’n pen-blwydd ac i wella’n gwybodaeth am ein hawyr dywyll, ewch ati i gymryd rhan yn wythnos Seryddiaeth a Chyfri’r Sêr 2014. Mae’r ymgyrch hon yn helpu i fonitro effaith llygredd golau ac yr un yw’r egwyddor â digwyddiadau gwylio adar – y cyfan sydd angen ei wneud yw edrych ar yr awyr a chyfrif sawl seren y gallwch ei gweld yng nghytser Orïon gyda’ch llygad noeth ar unrhyw noson glir rhwng 26 Chwefror a nos Sadwrn 8 Mawrth.

Cymorth gyda dod o hyd i Orïon – mae’n well gwneud hyn ar ôl 7pm ac edrych tua’r de. Fel mae’n siŵr y gwyddoch, y tair seren lachar ger ei gilydd mewn llinell syth yw Llathen Fair (Hunter’s Belt), y ddwy seren lachar i’r gogledd yw ysgwyddau’r heliwr a’r ddwy i’r de yw ei draed – peidiwch â chyfri’r pedair seren yn y corneli – dim ond y rhai welwch oddi fewn iddynt.

Cyfrwch faint o sêr y gallwch eu gweld gyda’ch llygad noeth (mae’n bwysig nad ydych chi’n defnyddio telesgop neu sbienddrych) a chofnodwch eich canlyniadau ar-lein yn  www.cpre.org.uk/starcount. Pan fydd yr arolwg yn gyflawn, bydd Map Cyfri’r Sêr yn cael ei greu ar gyfer y DU i roi syniad gwell i ni ac eraill o lygredd golau ledled y wlad.

Meddai Ruth Coulthard, Swyddog Datblygu Cyllid Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac un o swyddogion arweiniol y broses o wneud cais i fod yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn y lle cyntaf: “Rhan o’r dynodiad yw ein bod yn ymrwymo i fynd ati i leihau llygredd golau, felly bydd casglu’r data hyn o gymorth mawr.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda’n trigolion a busnesau twristiaeth ac mae hyn wedi talu ar ei ganfed. Mae bron pawb rwyf wedi gweithio gyda nhw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n chwilio am brofiad awyr dywyll ac mae rhai busnesau wedi datblygu cyfleusterau arbennig fel y gall eu gwesteion fwynhau awyr y nos – gan greu arsyllfeydd a phrynu telesgopau at ddefnydd cwsmeriaid. Mae mwy nag erioed o ddigwyddiadau awyr dywyll yn cael eu trefnu ac yn llwyddo i werthu pob tocyn, ac mae tair cymuned (Tal-y-bont a Chrai, Y Gelli Gandryll a Llan-gors) wedi trefnu gwyliau bach eu hunain hyd yn oed.

“Mae seryddwyr yn gweithio gyda phlant ar draws y parc, mewn grwpiau geidiau, cenau a sgowtiaid, i ddysgu mwy am awyr y nos ac effaith negyddol llygredd golau, ac rydym ni wedi cael sylw cenedlaethol a rhyngwladol gan newyddiadurwyr.

“Ond y newyddion gorau yw bod tirweddau eraill yn y DU wedi cael eu hysbrydoli i ennill yr un statws – dyfarnwyd y statws i Northumberland fis diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan wed cyflwyno’i chais ac rydym ni wedi cael ymweliadau gan Eryri a’r Peak District ac ymholiadau gan y South Downs a New Forest. Rydym ni’n cynnal trafodaeth yn y Senedd yng Nghaerdydd i edrych ar y manteision sydd wedi dod i’n rhan yn sgil y dynodiad a’r hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â llygredd golau a’i leihau ledled Cymru. Mae hyn yn bluen fawr yng nghap Cymru a’n gobaith yw dathlu am flynyddoedd lawer i ddod.”

Meddai Jim Wilson, Cadeirydd Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a’r un wnaeth ddechrau’r prosiect i gael statws Gwarchodfa: “Roedd cydweithio â busnesau a’r cyhoedd yn ystod y prosiect i gael statws Gwarchodfa yn allweddol i’n llwyddiant. Mae’n wych gweld bod y brwdfrydedd yn parhau a manteision ein hawyr dywyll yn cael eu gwireddu.

“Mae gwaith ar droed i sefydlu arsyllfa seryddol yn y Ganolfan Fynydd i roi cyfleoedd gwell fyth i drigolion ac ymwelwyr y Parc fwynhau ein hawyr dywyll.”

Meddai Mrs Margaret Underwood, Aelod Hyrwyddwr Bioamrywiaeth ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae gallu gweld y sêr yn brofiad rhyfeddol a phrin yw’r cyfleoedd i werthfawrogi tywyllwch yn y byd trydan sydd ohoni. Mae’n bwysig iawn i’n bywyd gwyllt hefyd. I rai rhywogaethau, mae’r tywyllwch yn gyfle i orffwys a chysgu; i eraill, mae’n amser i fwydo a hela ond mae pob rhywogaeth yn dibynnu i ryw raddau ar gael cyfnod o dywyllwch llwyr. Felly er bod y dynodiad Awyr Dywyll o fantais i ni, mae hefyd o fantais i fioamrywiaeth. Mae’r dynodiad hwn yn dipyn o gamp ac yn un y gallwn fod yn haeddiannol falch ohono.”

-DIWEDD-