Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cyrraedd yr uchelfannau mewn ymgais i atgyweirio’r difrod i lwybr troed yn sgil erydiad

Gwelir golygfeydd trawiadol yr wythnos hon wrth i dros 400 tunnell o gerrig mân gael eu cludo mewn hofrennydd i ddarn anghysbell o Glawdd Offa i roi wyneb newydd ar ddarn o’r llwybr troed. 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bwriadu brwydro yn erbyn yr amodau rhewllyd a’r tywydd cyfnewidiol er mwyn cludo’r deunydd mewn hofrennydd i Benybegw (677 metr / 2221 troedfedd dros lefel y môr) a chreu arwyneb cynaliadwy ar y llwybr yn y mannau lle mae wedi erydu. Bydd y gwaith yn parhau drwy’r wythnos ac yn arwain at welliannau cynaliadwy i dros 3200 metr o’r llwybr er mwyn lleihau rhagor o ddifrod yn sgil erydu.

Bydd y cerrig yn cael eu cludo i’r safle mewn llwythi 1 dunnell unigol, a bydd angen tua 5 diwrnod i gludo’r llwyth cyfan.  Mae’r agreg wedi’i ddewis yn benodol oherwydd ei fod yn wydn ac yn gydnaws â’r cerrig sydd eisoes ar y llwybr troed.

Mae’r darnau o’r llwybr troed sydd wedi’u herydu hyd at 2 filltir i ffwrdd o’r ffordd agosaf, ac oherwydd y graddiant serth a’r amodau ar y tir, mae’n rhaid cerdded neu deithio mewn hofrennydd i gyrraedd y fan. Bydd gwirfoddolwyr Ucheldir y Mynyddoedd Du yn cynorthwyo wardeniaid a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda’r gwaith hwn.

Meddai Richard Ball, Swyddog Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Oherwydd amodau’r tywydd cyfnewidiol, y lleoliad anghysbell ac uchder y safle, y dewis mwyaf priodol ar gyfer y gwaith mynediad hwn oedd defnyddio hofrennydd. Mae’r rhan fwyaf o ardal ucheldir y Mynyddoedd Du wedi’i diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei chynefinoedd ucheldir sy’n arbennig iawn. Mae’n rhaid i ni osgoi difrodi’r safle wrth wneud y gwaith.

“Mae’r ardal hefyd yn bwysig yn economaidd oherwydd ffermio a thwristiaeth, ac er bod hyn yn dod ag incwm pwysig i’r ardal, mae hefyd yn costio arian i ddiogelu a chynnal a chadw’r ardal. Mae Gwirfoddolwyr Ucheldir y Mynyddoedd Du yn gwneud gwaith pwysig yn cynnal a chadw llwybrau ucheldir yr ardal, ac maen nhw wedi dechrau gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar lwybrau ledled yr ardal. Bron bob blwyddyn rydym yn atgyweirio llwybrau’r ucheldir ledled y Parc Cenedlaethol er mwyn gwella’r arwyneb, ond yn bennaf er mwyn rhwystro cerddwyr rhag sathru ar gynefinoedd sensitif yr ucheldir yn yr ardal gyfagos. Gall cerddwyr wneud eu rhan hefyd drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, cadw at y llwybrau sydd wedi’u hatgyweirio ac ystyried sut y gallant helpu i gynnal a chadw llwybrau.”

Dywedodd Margaret Underwood, Aelod Eiriolwr bioamrywiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae Llwybr Clawdd Offa yn fyd-enwog, ac oherwydd yr holl bobl sy’n mwynhau cerdded ar hyd y llwybr, mae’r arwyneb yn cael ei erydu. Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gallu mwynhau cerdded a rhyfeddu at y golygfeydd godidog heb ddifrodi nodweddion arbennig y lle. Mae’r gwaith hwn yn gyfle i ni ddarparu llwybr o ansawdd uchel sy’n dda i gerdded arno, gan leihau unrhyw ddifrod i fioamrywiaeth bwysig yr ardal. Bydd yr amodau tywydd presennol yn gwneud y gwaith yn anodd i’n wardeniaid, ond rwy’n hyderu y gallant lwyddo.”

Mae’r llwybr rhwng y Gelli Gandryll a’r Pandy, ac mae’n un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd ymysg cerddwyr sy’n ymweld â’r ardal. Ariennir y gwaith hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phrosiect Gwirfoddolwyr Ucheldir y Mynyddoedd Du, ffoniwch Jason Rees ar  01874 620484 neu e-bostiwch Jason.rees@beacons-npa.gov.uk.

-DIWEDD-