Digwyddiad Cerddoriaeth ar y Dŵr i ddathlu ‘Canalathon’

Mae’r cyffro’n cynyddu ac mae’r paratoadau wedi dechrau ar gyfer digwyddiad newydd eleni – Canalathon 2014 – a gynhelir ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu ddydd Sul 14 Medi.

Mae 55 tîm o bedwar wedi cofrestru ar gyfer y ‘Canalathon’, a fydd yn eu herio i gwblhau llwybr 33 milltir mewn canŵ, ar feic ac ar droed. Bydd y cystadleuwyr yn dechrau ym masn Llanfihangel Pont-y-moel, gan ganŵio 5 milltir i Lanfa Goetre, cyn beicio 17 milltir i Langynidr. O Langynidr, byddant yn cerdded neu’n rhedeg 11 milltir i gwblhau’r her ym Masn Camlas Aberhonddu.

Ar ôl iddyn nhw groesi’r llinell ym Masn y Gamlas, mae gwledd gerddorol wedi’i threfnu i ddathlu diwedd yr her ac i longyfarch y rhai sydd wedi cymryd rhan. Bydd saith band yn canu gydol y dydd wrth i’r cystadleuwyr groesi’r llinell derfyn. Bydd y Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyflwyno medalau i’r cystadleuwyr ar ôl iddyn nhw gwblhau’r her. Bydd lluniaeth ar gael hefyd.

Mae’r her wedi’i hariannu gan brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ariennir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a Llywodraeth Cymru. Mae’r ‘Canalathon’ yn cael ei drefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Glandŵr Cymru ac Advent.

Meddai Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n wych gweld y digwyddiad hwn yn dwyn ffrwyth. Mae’r naws gymunedol wedi bod yn anhygoel ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod i gefnogi’r cystadleuwyr ar y dydd wrth iddyn nhw gwblhau’r her, yn ogystal ag i fwynhau’r adloniant. Dyma’r digwyddiad perffaith i’r teulu i gyd ddod i brofi’r awyrgylch a mwynhau’r gerddoriaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fod y digwyddiad wedi cael derbyniad gwresog yn ei hetholaeth leol yn Llangyndir. Meddai: “Mae digwyddiadau fel hyn yn ennyn brwdfrydedd y gymuned ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr cymunedol a swyddogion y Parc Cenedlaethol sydd wedi gwneud eu gorau glas i greu’r digwyddiad newydd hwn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol rheolaidd.”

Meddai David Morgan, Rheolwr Menter Glandŵr Cymru: “Rydyn ni wedi cael boddhad mawr o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn ac rydyn ni mor falch bod cymaint o bobl wedi cofrestru ar gyfer y her yn ei dyddiau cynnar. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y digwyddiad cymunedol hwn yn cael ei gynnal eto y flwyddyn nesaf.”

Rhaglen

1pm    Copper and Co

2pm    Tell Tale

3pm    Uskulele

4pm    The Borrowers

5pm    Côr Cymunedol Alive and Kicking

6pm    Safely Insane

7pm    Mike a Johnny Bird

-DIWEDD-