Un dyn a’i dwba dŵr!

I’w ryddhau 27 Mehefin 2011

Wedi’i drefnu gan Tony Bain o Green Dragon Activities, roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rwyfo twbâu dŵr cyn y Pencampwriaethau Twba Dŵr y Byd sy’n cael eu cynnal yn hwyrach eleni ym mis Hydref yn Llanwrtyd.  

Wedi’i gefnogi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dyfrffyrdd Prydain, bwriad y digwyddiad hefyd oedd helpu i hyrwyddo Pen-blwydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn 200 oed, sydd yn mynd i ddechrau yn 2011, ynghyd â chymunedau a busnesau lleol yn y pentrefi ar hyd y gamlas. 

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Tony Bain:  “Roedd yn daith lafurus o ystyried y tywydd poeth, ond roedd y gamlas â choed ar ei hyd yn rhoi cyfnodau oer rhag pelydrau poeth yr haul. Dangosodd pobl ar eu cychod camlas dipyn o ddiddordeb – roedd nifer ohonynt yn ymestyn am eu camerâu wrth i ni basio, gan ddweud ‘yn yr holl flynyddoedd dw i wedi bod ar y gamlas…’ a ‘dw i erioed wedi gweld dim byd tebyg’. Gofynnodd un dyn a allai fenthyg fy nhwba dŵr i baentio ochrau ei gwch! 

“Roedd yn ddiwrnod gwych, a oedd hyn yn well pan arhosom yn y dafarn leol ym Mhengelli, sydd yn Llwybr Bwyd y Gamlas newydd. Cawsom help llaw ar ôl cinio wrth un o’r cychod camlas a dynnodd rhai o’r caiacau peth o’r ffordd. Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych, a gwnaethom gyfarfod â nifer o ffrindiau newydd ar hyd y gamlas, ac rwy’n gobeithio gwneud y cyfan eto’n fuan yn yr amser sy’n arwain at Bencampwriaethau Twba Dŵr y Byd.” 

Os hoffech ddarganfod mwy am Bencampwriaethau Twba Dŵr y Byd, cysylltwch â Tony Bain ar  info@greendragonactivities.co.uk neu ffoniwch 01591 610508. I ddarganfod mwy am Lwybr Bwyd Camlas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gallwch gasglu taflen o Ganolfan Croeso gerllaw (Aberhonddu, y Fenni neu Llanymddyfri), neu cysylltwch â Carol Williams ar 01874 620 478.