Rub a dub dub – mae angen twba dŵr ar Gamlas Aberhonddu!

I’w ryddhau 13 Mehefin 2011

 

Mae Pencampwriaethau Twba Dŵr y Byd eleni yn cael eu cynnal yn Llanwrtyd – sy’n enwog am snorcelio corsydd – felly mae croeso i ddarpar gyfranogwyr ddod â’u twbâu i Fasn Camlas Aberhonddu, ger Theatr Brycheiniog, i roi cynnig ar rasio twbâu dŵr eu hunain ddydd Sul 26 Mehefin. Mae’n union fel caiacio, ond mewn twba dŵr – felly peidiwch ag anghofio dod â rhwyf gyda chi!

Gwahoddir pawb i ymuno â Tony Bain, trefnydd Pencampwriaethau Twba Dŵr y Byd, wrth iddo deithio ar hyd y gamlas o Aberhonddu i Dal-y-bont ar Wysg, wrth iddo ddefnyddio dulliau gwahanol o deithio, gan gynnwys teithio hyd y gamlas mewn twba dŵr. Y syniad yw bod pobl yn gallu cerdded, rhedeg, beicio, canŵio, caiacio, teithio mewn cwrwgl, twba dŵr neu hyd yn oed cwch camlas i Dal-y-bont. Ar ôl cwblhau eu taith, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd yn ôl i Aberhonddu gan ddefnyddio’r cludiant sydd wedi cael ei drefnu gyda Gwasanaeth Tacsi Aberhonddu, sy’n cynnwys trelar beiciau, neu deithio ar fws X43.

Bydd yn daith yn dechrau am 9am ddydd Sul 26 Mehefin 2011 o Fasn Camlas Aberhonddu ger Theatr Brycheiniog a bydd yn ymlwybro i Dal-y-bont. Nid yw’n gystadleuaeth, ond mae croeso i bawb ymuno â’r daith ar unrhyw gam o’r digwyddiad. 

Gall y rhai sy’n cymryd rhan, y gwylwyr neu’r rheiny sydd eisiau bwyta eu ffordd ar hyd y llwybr, gasglu copi o’r daflen Llwybr Bwyd y Gamlas sydd ar gael erbyn hyn, sy’n disgrifio’r caffis, tafarndai a bwytai ar hyd y ffordd. Wedi’i llunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dyfrffyrdd Prydain, mae’r daflen newydd yn rhan o’r gweithgareddau sy’n arwain at Ben-blwydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn 200 oed yn 2012. Mae Llwybr Bwyd y Gamlas yn dilyn Camlas Mynwy ac Aberhonddu i’r de allan o Aberhonddu am 12cilometr/7.5milltir trwy  Brynich, Llanfrynach, Pengelli, i Dal-y-bont ar Wysg, ac mae’n cael ei wasanaethu gan dafarndai, caffis a bwytai lleol hygyrch sy’n cynnig digon o fwy a lluniaeth lleol blasus i barhau eich taith.  

Pam na wnewch chi’r mwyaf o’r nosweithiau mwyn yr haf trwy fynd am dro i un o’r tafarndai ar hyd y gamlas, a mynd am dro i gael gwared ar y cinio wedyn? Gallwch ddilyn y llwybr tynnu yr holl ffordd yn ôl i Aberhonddu. Gyda newidiadau diweddar i hawliau mynediad defnyddwyr llwybr tynnu’r gamlas, mae ymwelwyr a phreswylwyr y Parc Cenedlaethol bellach yn gallu rhedeg, cerdded, rhwyfo a beicio ar hyd llwybr y gamlas o Aberhonddu i Dal-y-bont, yr holl ffordd i’r Fenni. 

Y newyddion gorau yw y gall unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y daith ar hyd y gamlas gofrestru ar gyfer cystadleuaeth Her Teithio 2011, i gael cyfle i ennill gwyliau cerdded neu feicio i’r teulu cyfan! Mae Herwyr Teithio yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth fisol, bob mis tan fis Medi, a byddan nhw hefyd yn cael cyfle i ennill gwyliau. I gymryd rhan, mae angen i chi naill ai deithio heb eich car (cerdded, rhedeg, beicio, canŵio, teithio mewn twba dŵr, caiacio) a chwblhau’r daith yn y Parc Cenedlaethol, neu deithio yn y Parc Cenedlaethol neu o’i gwmpas, gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus (nid yw teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn cael ei gynnwys). Dylai pob cais gynnwys prawf o’u taith, ar ffurf derbynneb, tocyn neu lun, ac mae’n rhaid i’r daith gael ei chyflawni rhwng 1 Mai a 30 Medi 2011. Gellir cofrestru ceisiadau ar-lein ar www.travelbreconbeacons.info neu trwy daflen cystadleuaeth Her Teithio.

Os hoffech ymuno â Tony Bain mewn twba dŵr, gallwch gysylltu ag ef ar info@greendragonactivities.co.uk neu 01591 610508. I ddarganfod mwy am Lwybr Bwyd y Gamlas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gallwch gasglu taflen o Ganolfan Croeso gerllaw (Aberhonddu, Y Fenni neu Llanymddyfri, neu cysylltwch â Carol Williams ar 01874 620 478.

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Llun o drefnwr Pencampwriaethau Twba Dŵr y Byd, Tony Bain, ar Afon Irfon yn Llanwrtyd.