Diwrnodau Allan Gwych yn Y Fenni yn cynnig blwyddyn dwristiaeth fawr

Wedi’u lansio heddiw (14 Mehefin 2011) yn Tithe Barn yn Y Fenni, mae’r gyfres Diwrnodau Allan Gwych yn rhestr gynhwysfawr o syniadau i ymwelwyr ddarganfod cestyll, eglwysi, marchnadoedd, siopau, camlesi, mynyddoedd, y gorffennol diwydiannol, lleoedd bwyta ac mae hyd yn oed gwinllan hefyd!

Mae Cymdeithas Twristiaeth y Fenni a’r Cylch (ADTA) wedi bod yn gweithio gyda Phrosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Croeso Cymru i lunio chwe “Diwrnod Allan Gwych” i ddangos i ymwelwyr faint o bethau sydd i’w gweld a’u gwneud yn Y Fenni a’r cylch. 

Mae ADTA hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Hanes Lleol Y Fenni i lunio taflen newydd o’r enw ‘Trails and Tales’ sydd wedi’i anelu at deuluoedd. Mae’r taflenni newydd yn disgrifio taith gerdded awr o hyd sy’n arwain pobl i ddarganfod paciau ceramig a charreg ddiddorol trwy’r dref, sy’n ymchwilio i hanes unigryw’r Fenni.  Mae cwis y gall plant ei gwblhau ar ddiwedd y daith gerdded, ac os byddan nhw’n rhoi’r holl atebion, byddan nhw’n cael bathodyn o Ganolfan Groeso’r Fenni.

Dywedodd Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae taflenni Diwrnodau Allan Gwych Y Fenni yn cynnwys amrywiaeth o bethau i’w gwneud sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o chwaethau a grwpiau oedran. Trwy annog grwpiau twristiaeth yn Y Fenni a’r cylch i roi’r chwe Diwrnod Allan Gwych hyn ar eu gwefannau, rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr sy’n teithio trwy’r Fenni yn aros dros nos fel y gallan nhw archwilio’r dref. Os gallwn ni annog busnesau i roi’r taflenni hyn ar eu gwefannau, pan mae pobl yn mynd i chwilio am leoedd i ymweld â nhw, neu i fynd ar wyliau, byddan nhw’n gweld bod Y Fenni’n lle gwych i ddod, i aros a chael profiad o synnwyr lle gwirioneddol. Dyma’r dref gyntaf i gynhyrchu’r math hwn o daflenni ac rydym yn gobeithio y bydd trefi eraill fel Talgarth, Crughywel, Llanymddyfri, Cwm Tawe, yn dilyn yn y misoedd nesaf.”

Dywedodd Gwenllian Jones, Cadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Y Fenni a’r Cylch: “Mae’r cyhoeddiadau newydd hyn yn wych i fusnesau lleol eu rhoi ar eu gwefannau. Bydd gan ymwelwyr i’r Fenni cymaint o ddewisiadau o ran pethau i’w gwneud, byddan nhw’n cynyddu’r amser maen nhw’n aros yn yr ardal. Mae staff ein Canolfan Groeso hefyd yn eu hystyried yn hynod ddefnyddiol wrth gynnig gwybodaeth i bobl yn Y Fenni.”

Mae taflenni Diwrnodau Allan Gwych Y Fenni ar gael erbyn hyn  o Ganolfan Groeso’r Fenni neu i’r lawrlwytho fel dogfennau pdf yn barod ar gyfer dechrau’r haf o’n gwefan www.breconbeacons.org 

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 

NODIADAU I OLYGYDDION

• Mae ffigurau Steam (2009) yn dangos bod 74% o’r ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol yn ymwelwyr dydd.

• Os rydych chi’n newyddiadurwr sy’n ysgrifennu erthygl ac yr hoffech ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu i gael mwy o wybodaeth i’r wasg a delweddau, cysylltwch â Samantha Games, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar 01874 620 420 neu anfonwch neges e-bost at samantha.games@breconbeacons.org. Am fwy o wybodaeth am Collabor8, cysylltwch â Swyddog Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Nick Stewart ar 01874 620490 neu nick.stewart@breconbeacons.org 

• Mae Prosiect COLLABOR8 yn cael ei ariannu 50% gan Rhaglen Gogledd-orllewin Ewrop ERDF Interreg 4B. Mae’r prosiect partneriaeth hwn yn cynnwys naw o bartneriaid gwahanol o Gymru, Iwerddon, Lloegr, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Ei nod yw cynnwys yn weithredol clystyrau o fusnesau bach mewn datblygu ansawdd, cynaliadwyedd a gwasanaethau sy’n hybu ‘synnwyr lle’ lleol. Yn y modd hwn, bydd pob clwstwr twristiaeth yn gallu elwa ar unigrywiaeth eu rhanbarthau i gystadlu’n well ym marchnadoedd yr UE a byd-eang.

• Y partneriaid sy’n ymglymedig â phrosiect COLLABOR8 yw: South Kerry Development Partnership Ltd. (Iwerddon) – (Partner Arweiniol); DLG Government Service for Land and Water Management: Office of the National Project New Dutch Waterline Department (Iseldiroedd); Stichting Studio VMK (Iseldiroedd); Flemish Land Agency (Gwlad Belg); Tourism East Flanders (Gwlad Belg), Westcountry Rivers Trust (DU); South Downs National Park Authority (DU); Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (DU); a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (DU).