Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn cynnal Ffair Briodas

Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus, yn croesi ei bysedd am dywydd da wrth iddi gynnal ei hail ‘Ffair Briodas’ ddydd Sul 19 Mehefin 2011. Bydd yn dechrau am 12pm ac yn para tan 4pm, a gwahoddir cyplau wedi dyweddïo, darpar briodferched a mamau sydd wedi cynhyrfu, i fynychu’r digwyddiad a fydd yn arddangos dewis gwych o werthwyr priodasol – efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu cynllunio eich diwrnod mawr yn y Ganolfan! I’w ryddhau 13 Mehefin 2011

Bydd yr arddangoswyr a fydd yn bresennol yn y ffair yn cynnwys:

• Gwerthwr Blodau Becca Jane.

• Fideo a Ffotograffiaeth Red Dog Media 

• Gwasanaeth Gwarchod Theresa Mills 

• Cresta Caterers 

• Paula Ball o Balloons and Party Ideas

• Brecon Wedding Cars 

• Ffotograffiaeth Pickled Egg Design 

• Centre Of Attention, Aberhoddu

• Ffrogiau a Chyfwisgoedd Chez Louise Bridal 

• Welsh Chair Company

• Pebyll Mawrion Nigel Bond 

• Trydanwyr Cecil Leith  

• Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

• Trinwyr Gwallt Altered Images o Aberhonddu

• Wow Events o Ferthyr

• Siwtiau Evan Wilkins o Aberhonddu 

• Anthony Williams, troellwr

• Magical Cake Company o Gaerffili

• Canwr Priodasau, Tony Royale

Dywedodd Andrew Powell, Rheolwr Arlwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Ar gyfer nifer o gyplau, cael priodas berffaith yw’r profiad eithaf i’w gael, ond gall fod yn straen i’w threfnu yn aml.”

“Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol wedi cynnal 9 priodas ar y tir ac yn y Ganolfan erbyn hyn, ac rydym yn bwriadu cynnal llawer mwy yn y blynyddoedd nesaf. Rydym yn gobeithio bydd ein Ffair Briodas yn rhoi rhai awgrymiadau i gyplau i gynllunio eu diwrnod arbennig a chael gwared ar beth o ffwdan cynllunio priodas.”  

“Pam na wnewch chi ddod i ddarganfod a yw Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn lle rydych chi’n edrych amdano?”