Eich cyfle i ddweud eich dweud am lwybrau troed a llwybrau ceffylau ym Mharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

(I’w ryddhau 9 Medi 2011)

Yn benodol, bydd yr holiadur yn gyfle i fynegi barnau ar rwydwaith presennol y llwybrau troed a llwybrau ceffylau mae cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, marchogwyr a beicwyr yn eu defnyddio i fynd i gefn gwlad a’i fwynhau. Bydd yr adolygiad hwn ar y cyd yn darparu gwybodaeth werthfawr i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol am reolaeth, adnoddau a darparu rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, a yw’r rhain yn bodloni anghenion y bobl sy’n eu defnyddio a pha flaenoriaethau sydd angen ymdrin â nhw yn y dyfodol.

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad i bawb ac mae’n chwarae rôl bwysig wrth reoli rhwydwaith mawr o hawliau tramwy cyhoeddus, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u dosbarthu  fel llwybrau troed a llwybrau ceffylau cyhoeddus, sy’n darparu mynediad at y tirweddau unigryw hyn a mwynhad ohonynt.  

Dywedodd Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Rydym wedi ymrwymo i gryfhau cysylltiadau mynediad at dirweddau cefn gwlad a meithrin amrywiaeth yn y rhwydwaith felly p’un ai ydych yn brasgamu i fyny Pen y Fan, cerdded ar Lwybr Arfordir Sir Benfro neu’n mynd â’ch ci am dro ar un o’n llwybrau troed neu’n llwybrau camlas rydym eisiau i chi roi eich barnau am y rhwydwaith presennol.  Mae gan y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus y potensial i effeithio ar fwynhad pobl o’r tirweddau arbennig, y cyfleoedd busnes lleol, a thwristiaeth, felly nid yw’n ymwneud â defnyddwyr unigol yn unig ychwaith.  Rydym hefyd yn gofyn i sefydliadau megis Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, Cymdeithas y Cerddwyr a’r Cymdeithasau Pori i roi adborth i ni am y rhwydwaith. Pan fydd y wybodaeth i gyd wedi’i chasglu, rydym yn bwriadu ei chraffu  a’i defnyddio fel fframwaith er mwyn gosod ein blaenoriaethau.”

Gellir lawr lwytho’r holiadur yma 

I gael rhagor o wybodaeth ar holiadur y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus cysylltwch â Lora Davies ar lora.davies@breconbeacons.org neu ffoniwch 01874 624437