Gŵyl Geoparc yn dathlu creigiau caled Cymru

Cynhelir seithfed Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr rhwng 21 Mai a 5 Mehefin, a bydd hi’n cynnwys nifer o ddigwyddiadau awyr agored cyffrous sy’n gysylltiedig â daeareg, gan gynnwys teithiau cerdded, darlithoedd, teithiau hanes trefi lleol, planhigion, ffosiliau, rhaeadrau, celf, carneddau claddu, yr oes iâ ddiwethaf ac wrth gwrs y Bannau eu hunain – gyda phob digwyddiad yn addas ar gyfer y teulu cyfan ac yn tynnu sylw at nodweddion arbennig Geoparc y Fforest Fawr.

Dywedodd Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geoparc ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Er mai dathliad o’r Rhwydwaith Geoparciau Ewropeaidd yw hwn, mae’n gyfle perffaith yn lleol i’r cyhoedd archwilio bywyd gwyllt, tirluniau a daeareg Geoparc y Fforest Fawr yng nghwmni arbenigwyr ysbrydoledig yn y maes. Mae yna rywbeth i bawb yng Ngŵyl Geoparc y Fforest Fawr ac mae croeso i bawb – yn blant ac yn oedolion, yn ddaearegwyr neu’n bobl â diddordeb brwd yn y maes.

Dywedodd y Cynghorydd Krishn Pathak, aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r ystod o ddigwyddiadau sy’n digwydd yn ystod Gŵyl Geoparc eleni yn anhygoel ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o rwydwaith mor urddasol o Goeparciau Byd-eang. Yn bersonol, rwy’n llawn cyffro o ran gweld ein cymunedau a’n hymwelwyr yn dod ynghyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau gysylltiedig â daeareg sydd hefyd yn dathlu treftadaeth a diwylliant anhygoel ardal orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r bobl sy’n byw yma.”

Mae Fforest Fawr yn ymuno â 42 Geoparc Ewropeaidd arall sy’n cynnal digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’u daeareg arbennig ac amrywiol yn ystod yr Ŵyl Geoparciau Ewropeaidd. Mae digwyddiadau arbenigol eraill yn cynnwys ‘Taith Gerdded Rhaeadrau, Ceunentydd a Choetiroedd’ ym Mro’r Sgydau ar ddydd Sul 22 Mai; noson yng nghwmni Dr Jenny Pike o Brifysgol Caerdydd yn Neuadd Tref Aberhonddu ar ‘Esblygiad Hinsawdd yr Antarctig’ a fydd yn trafod cliwiau o wely’r cefnfor ar ddydd Mawrth 24 Mai; archwiliad o Ganolfan Ymwelwyr newydd Garwnant yng Nghwm Taf o dan arweinyddiaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar ddydd Sadwrn 28 Mai; a thaith ‘Dyffryn Rhiniol a Neges Ganoloesol’ yn archwilio’r neges gudd gyfrinachol ar garreg sydd wedi’i chuddio yn Nyffryn Criban ar ddydd Mercher 1 Mehefin.

Rhestrir pob digwyddiad yn Llyfryn Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol sydd ar gael o bob Canolfan Ymwelwyr yn y Parc Cenedlaethol a Chanolfannau Croeso (gan gynnwys Aberhonddu, Llanymddyfri, Y Fenni a’r Gelli) neu i’w lawrlwytho o wefan y Parc Cenedlaethol: www.breconbeacons.org.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.fforestfawrgeopark.org.uk neu at wefan y Rhwydwaith Geoparciau Ewrop www.europeangeoparks.org, neu cysylltwch ag Alan Bowring ar 01874 620 415 neu anfonwch neges e-bost at alan.bowring@breconbeacons.org.

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Tynnwyd y lluniau ger Llwybr Nant Lech (Rhagnentydd Tawe) ac ym Mro’r Sgydau

NODIADAU I OLYGYDDION  

1. Mae’r Ŵyl Geoparciau Ewropeaidd yn ddigwyddiad blynyddol sy’n digwydd trwy gydol y Rhwydwaith Geobarciau Ewropeaidd ar yr un adeg bob blwyddyn. Amcan yr Ŵyl Geoparciau Ewropeaidd yw codi ymwybyddiaeth o’r Rhwydwaith Geoparciau Ewropeaidd trwy ddathlu hanes daearegol cyffredin Ewrop a’r rôl mae pob Geoparc yn chwarae yn y rhwydwaith.

2. Ym mis Hydref 2005, daeth Geoparc y Fforest Fawr yn aelod o’r Rhwydwaith Geoparciau Ewropeaidd a’r Rhwydwaith Geoparciau Byd-eang, a gefnogir gan UNESCO. Mae Geoparc y Fforest Fawr yn cynnwys rhai o atyniadau mwyaf godidog – naturiol ac artiffisial – Cymru, gan gynnwys Castell Carreg Cennen, y Mynydd Du, Pen y Fan, Parc Gwledig Craig-y-nos, Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu, cronfeydd dŵr y Parc Cenedlaethol a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Aberhonddu.

3. Fforest Fawr oedd y Geoparc Ewropeaidd CYNTAF yng Nghymru ac mae’n parhau i fod yr UNIG Geoparc sydd wedi’i leoli mewn parc cenedlaethol yn y DU – rhywbeth mae’r Bannau Brycheiniog yn falch iawn ohono!

4. Digwyddiadau eraill:

Dydd Llun 23 Mai       19:00 – 20:30                  

• Coelbren, Henrhyd a Nant Llech

Sgwrs yng nghwmni Joe Daggett o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Alan Bowring o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar nodweddion yr ardal gyda phwyslais ar ddaeareg, tirwedd ac archaeoleg ddiwydiannol. 

Lleoliad: Eglwys Coelbren, Heol Eglwys, Coelbren (Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans: SN 850116)                       

Mynediad AM DDIM

 

Dydd Mawrth 24 Mai      19:00-20:30       

• Esblygiad Hinsawdd yr Antarctig: cliwiau o wely’r cefnfor 

Araith gyweirnod yr ŵyl gan Dr Jenny Pike, ymchwilydd Antarctig o Brifysgol Caerdydd. 

Lleoliad: Neuadd Tref Aberhonddu (gyferbyn â banc HSBC), mae yna ddigon o le i barcio ym maes parcio’r Farchnad Wartheg 

Tocynnau: £2.50 wrth y drws

 

Dydd Mercher 25 Mai                19:00-20:30                       

• Llwybr Brynaman a’r Twrch Trwyth 

Cyflwyniad gan Dr Tony Ramsay a Margaret ac Alun Isaac ar lwybr y baedd chwedlonol, Twrch Trwyth, o Fôr Iwerddon i Fôr Hafren.  

Lleoliad: Canolfan y Mynydd Du, Brynaman (Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans: SN 714143), parcio gyferbyn. 

Mynediad AM DDIM

 

Dydd Iau 26 Mai                      19:00-20:30                       

• Esblygiad Daearegol De Cymru

Cyflwyniad diddorol gan Dr Geraint Owen o Brifysgol Abertawe.

Lleoliad: Neuadd Lles y Glöwyr, Abercraf (yng Nghwm Tawe) 

Mynediad AM DDIM

 

Dydd Gwener 27 Mai                            19:30-21:00           

• Canfyddiadau Natur: ymagwedd draws-ddiwylliannol trwy gerrig

Ymunwch â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog i wrando ar yr Athro Marc Lucas o Ecole des Mines, Paris, ac i weld yr arddangosfa ‘Celf Mewn Cerrig Naturiol’ (a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant cyn teithio o gwmpas yr ardal).

Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, Aberhonddu 

Mynediad AM DDIM

 

Dydd Iau 2 Mehefin                       19:00-20:30                  

• Mapio Brycheiniog 

Sgwrs yng nghwmni Dr Adrian Humpage o Arolwg Daearegol Prydain yn trafod y broses o greu mapiau daearegol newydd o’r sir.

Lleoliad: Neuadd Tref Aberhonddu. Cod post: LD3 7AL            

Tocynnau: £2.50 wrth y drws