Digon o bethau i’ch gwneud chi i wenu wrth ymweld â Bannau Brycheiniog

Gwahoddir pawb, gan gynnwys trigolion y Parc Cenedlaethol, i geisio’r gystadleuaeth Her Teithio Werdd – a gyda chymaint o wahanol ddulliau o deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol – cerdded, seiclo, ar y bws, beicio mynydd, marchogaeth, mewn canŵ, Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu, neu hyd yn oed ar y gamlas – mae’n bosibl y byddwch yn trefnu taith arall i’r Bannau cyn bo hir. Bydd pob cais yn cael ei gynnwys mewn raffl fawr sy’n cynnig y cyfle i chi ennill gwyliau cerdded neu seiclo yn y Bannau a llety yn y Bridge Café, Aberhonddu, gyda thaith gerdded neu seiclo dywysedig gan Drover Holidays wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer yr enillwyr. 

Mae’r Her Teithio’n gofyn i bawb ystyried sut maen nhw’n teithio ym Mannau Brycheiniog ac yn cynnig syniadau iddynt roi saib bach i’w ceir yn ystod eu hamser yn y Parc Cenedlaethol. Cynhelir rafflau ar ddiwedd pob mis (o fis Mai i fis Medi) a’r unig beth sy’n rhaid i bobl ei wneud yw un ai teithio i’r Parc Cenedlaethol ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wneud ymgais i beidio â theithio yn eu ceir (heb gynnwys teithio i’r gwaith). Rhaid cynnwys tystiolaeth gyda phob cais (ar ffurf derbynneb, tocyn neu ffotograff) a rhaid eich bod wedi teithio rhwng 1 Mai a 30 Medi 2011. Mae’n bosibl cyflwyno ceisiadau ar-lein (www.travelbreconbeacons.info) neu trwy lenwi ffurflen cystadleuaeth yr Her Teithio. 

Dywedodd Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae nifer o ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol yn dechrau bod yn fwy ymwybodol o ran yr ôl-troed maen nhw’n ei adael ar eu holau ac rydym ni’n ceisio eu helpu nhw trwy eu hannog i roi seibiant i’w ceir pan fyddant yn ymweld â’r ardal. Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud gan y Parc Cenedlaethol o ran edrych ar ddulliau arloesol o deithio, megis y B-Bugs newydd, Llwybrau Bwyd y Gamlas, a heb anghofio Bws y Bannau sy’n dechrau eleni ar 29 Mai. Golyga hyn fod digon o ddewis o ran mynd o A i B heb drafferth ac mewn ffordd gynaliadwy – a hynny wrth fwynhau golygfeydd godidog y parc.”

Am fwy o fanylion ynghylch cymryd rhan yn y gystadleuaeth neu i dderbyn copi o ffurflen yr Her Teithio, yn ogystal â mwy o wybodaeth am deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol heb eich car, ewch i’r wefan drafnidiaeth newydd sydd wedi’i dylunio’n arbennig i’ch cynorthwyo chi, yr ymwelwyr, i dorri nifer y milltiroedd rydych yn teithio yn eich ceir: www.travelbreconbeacons.info.

Yn ogystal, bydd cyfres o daflenni gwybodaeth o’r enw ‘Diwrnodau Allan Heb y Car’ a thaflen newydd yr Her Teithio ar gael o bob Canolfan Croeso yn y Parc (Aberhonddu, Y Fenni, Llanymddyfri, y Gelli a Pontneddfechan) – pob un ohonynt wedi’u dylunio i helpu ymwelwyr i gynllunio’u gwibdeithiau gan ddefnyddio trafnidiaeth leol.