Blwyddyn dda o ran ffilmio yn y Parc Cenedlaethol

Mae’n siŵr fod y parc yn fwy enwog am ddenu cerddwyr, gwylwyr adar neu bysgotwyr.

Ond mae 2011 yn datblygu i fod yn flwyddyn fawr o ran ymholiadau ar gyfer lleoliadau ffilm a theledu, gyda nifer o gynyrchiadau yn ffilmio yn y Bannau.

Ers mis Ionawr, mae wyth o gynhyrchwyr ffilmiau adnabyddus wedi dangos diddordeb mewn ffilmio yn y Parc; dwywaith cymaint â’r llynedd. Yn 2010, ffilmiwyd rhannau o un ffilm yn y Parc, sef ‘Killer Elite’, gyda Jason Statham, Robert De Niro a Clive Owen yn chwarae’r prif rannau.

Ond nid ffilmiau yn unig sy’n dangos diddordeb. Ers dechrau’r flwyddyn, rydym wedi cael 80 ymholiad gan gwmnïau cynhyrchu teledu, hysbysebwyr a ffotograffwyr o gymharu â 36 yn 2010.

Mae gennym wastadeddau tebyg i’r gorllewin gwyllt a chloddfeydd sy’n atgoffaol o dirwedd y lleuad.

Yn ôl ffigyrau 2009/10, mae’r diwydiant ffilm a theledu gwerth £21m i economi Cymru. 

Helpodd Comisiwn Sgrin Cymru gydag un ffilm ar ddeg a saethwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf: gyda Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 1, a Robin Hood yn Sir Benfro; Clash of the Titans yng ngogledd Cymru; ac Ironclad yn stiwdio Valleywood yn ne-ddwyrain Cymru yn eu mysg.

Yn ogystal, defnyddiodd Wolfman a Stardust y parc ar gyfer ffilmio.

Dywedodd Samantha Games o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Credaf eu bod nhw’n gweithio gyda ni oherwydd bod y dirwedd yn cynnig y fath amrywiaeth.

“Mae gennym wastadeddau tebyg i’r gorllewin gwyllt a chloddfeydd sy’n atgoffaol o dirwedd y lleuad.

“Mae’r Hitchhiker’s Guide a Doctor Who wedi ffilmio yn y Bannau ac mae ffilmiau ffantasi yn hoff iawn o’r rhaeadrau a’r llynnoedd mynyddig ynysig.” 

Ffilmiwyd golygfeydd o gyfres Doctor Who yn y Bannau: “Mae nifer yr ymholiadau yn codi a disgyn yn unol â’r hinsawdd economaidd ryngwladol. Yn lwcus i ni, mae cwmnïau cynhyrchu ffilmiau yn dangos diddordeb mewn saethu yn y DU eto eleni, a phan maen nhw’n penderfynu saethu yn y DU maen nhw’n tueddu cysylltu â ni. 

“Rydym ni wedi cael nifer anhygoel o ymholiadau eleni – llawer yn fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol.

“Mae ymholiadau lleoliad yn gallu bod yn fanwl tu hwnt – ac yn gallu cynnwys cais am fath penodol o rywogaeth coed fel cefndir hyd yn oed – ond mae’r rheolwyr lleoliad yn gwybod bydd ein wardeniaid yn ffeindio’r hyn maen nhw’n gofyn amdano, os yw hynny’n bosibl.”

Fodd bynnag, nid oes hawl gan swyddogion y parc ddatgelu manylion ynghylch y ffilmiau sydd wedi dangos diddordeb.

 

Gweithiodd Bill Darby, rheolwr lleoliadau llawrydd, yn y Bannau ar King Arthur, ffilm gyda Keira Knightley, Clive Owen ac Ioan Gruffudd yn y prif rannau.

Dywedodd Mr Darby, sydd hefyd wedi gweithio ar Robin Hood gyda Russell Crowe, a’r ffilmiau Charlotte Gray, Pearl Harbor, Mansfield Park a Rogue Trader: “Mae’n amgylchiadol mewn gwirionedd ac yn gyfuniad o wahanol bethau. Mae’r bunt yn wan ac mae yna gymhelliad treth i gwmnïau sy’n ffilmio yn y DU.

“Mae llawer o gynyrchiadau yn dod i’r DU – nid dim ond ffilmiau brodorol. Mae’r diwydiant yn y DU yn brysur iawn a’r gobaith yw y bydd yn aros fel hynny.”

Mae’n hygyrch, yn hardd iawn ac mae’r parc cenedlaethol yn annog unedau ffilm.” 

Bill Darby, Rheolwr Lleoliadau.

“Y peth arall mae’r Bannau yn ei gynnig yw rhai o olygfeydd mwyaf godidog y DU, ac mae’n agos i stiwdios ffilm Pinewood a Shepperton hefyd.

“Mae’n bosibl i chi wneud ‘recce’ i’r Bannau a dychwelyd i Lundain yr un diwrnod. Dim ond taith o dair awr yw hi. 

“I grynhoi, mae’n hygyrch, yn hardd iawn ac mae’r parc cenedlaethol yn annog unedau ffilm.”

Fe roddodd ganmoliaeth i swyddfa gysylltiadau’r parc – rhywbeth a gafodd ei atseinio gan Gomisiwn Sgrin Cymru – sy’n cynnig cymorth i gynhyrchwyr ffilmiau o ran lleoliadau, adnoddau a gwasanaethau lleol.

Dywedodd Mike Wallwork o Gomisiwn Sgrin Cymru ei fod yn awyddus gweld pob awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru yn gweithio yn yr un ffordd.  

Dywedodd: “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn rhagweithiol o ran cynnal ymweliadau lleoliadau, ac mae hynny’n helpu o ran codi hyder ymysg rheolwyr lleoliadau a chynhyrchwyr.

“Mae’r Bannau wedi chwarae rhan mewn nifer o ffilmiau yn y gorffennol, ond mae diddordeb cwmniau ffilm yn yr ardal yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Y rheswm am hynny yw bod gan y parc swyddog penodol – sef Samantha Games – sy’n delio ag ymholiadau ffilm, a thîm o wardeniaid sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol o’r parc ac sy’n gallu rhannu hynny gyda chynhyrchwyr ffilm sy’n ymweld â nhw. Rydym yn awyddus i weld y math hwn o arfer gorau yn cael ei fabwysiadu gan bob un o dri awdurdod parciau cenedlaethol Cymru.”

Yn ôl Parc Cenedlaethol Sir Benfro, maen nhw wedi cael 24 ymholiad ers mis Ionawr, o gymharu â 32 trwy yn ystod 2010.