Y cyfle olaf i ddweud eich dweud am lwybrau troed a llwybrau ceffylau ym Mharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

I’w ryddhau 17 Hydref 2011

Oherwydd lefel y diddordeb a ddangoswyd gan y cyhoedd, mae Awdurdodau  Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro wedi penderfynu ymestyn y cyfnod ymgynghori sy’n gwahodd pobl i gymryd rhan yn eu holiadur rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus fel y gallant adolygu ac asesu gwerth ac effeithiolrwydd y rhwydwaith.  Bydd yr adolygiad hwn ar y cyd  yn gwella’r gwaith presennol sy’n cael ei wneud gan y ddau Barc Cenedlaethol ar eu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy.  

Yn benodol, bydd yr holiadur yn gyfle i fynegi barnau ar rwydwaith presennol y llwybrau troed a llwybrau ceffylau mae cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, marchogwyr a beicwyr yn eu defnyddio i fynd i gefn gwlad a’i fwynhau. Bydd yr adolygiad hwn ar y cyd yn darparu gwybodaeth werthfawr i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol am reolaeth, adnoddau a darparu rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, a yw’r rhain yn bodloni anghenion y bobl sy’n eu defnyddio a pha flaenoriaethau sydd angen ymdrin â nhw yn y dyfodol.

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad i bawb ac mae’n chwarae rôl bwysig wrth reoli rhwydwaith mawr o hawliau tramwy cyhoeddus, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u dosbarthu  fel llwybrau troed a llwybrau ceffylau cyhoeddus, sy’n darparu mynediad at y tirweddau unigryw hyn a mwynhad ohonynt.  

Dywedodd Mrs Margaret Underwood, Aelod Blaen y Prosiect ac Aelod Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Rydym wedi cael ymateb bendigedig hyd yn hyn – gyda 50 o ymatebion fydd yn rhoi darlun da iawn o’r rhwydwaith presennol i ni.  Rydym yn gobeithio, trwy ymestyn y cyfnod ymgynghorol hwn, y bydd mwy o bobl yn cynnig eu barn fel y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon fel fframwaith cadarn er mwyn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith hawliau tramwy. Disgwylir y caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi erbyn canol mis Tachwedd 2012 ac os bydd pobl eisiau rhoi rhagor o dystiolaeth i’r pwyllgor bydd dau ddyddiad ar gyfer gwrandawiadau ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr – rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb.”

Gallwch lenwi’r holiadur yma neu ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro www.pembrokeshirecoast.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus cysylltwch â Lora Davies yn lora.davies@breconbeacons.org neu ffoniwch 01874 624437