Hyfforddiant amgylcheddol am ddim yn dathlu dechrau newydd i bobl sydd wrth eu bodd gyda’r amgylchedd

I’w ryddhau 20 Hydref 2011

 

Caiff dillad amddiffynnol a chymorth gyda thrafnidiaeth eu darparu, cyhyd â bod y gwirfoddolwyr:

• Yn ddi-waith neu’n astudio am lai nag 16 awr yr wythnos AC

• Nid ydynt yn derbyn Lwfans Ceiswyr Gwaith a Lwfans Cymorth AC

• Yn gallu ymrwymo i bob un o’r tridiau o hyfforddiant AC

• Yn 16 oed neu’n hŷn

Caiff ei gynnal ym Mharc Gwledig Craig-y-nos, ger Ystradgynlais, a bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant amgylcheddol gan Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar sgiliau cefn gwlad ymarferol (megis cloddio, torri dail tafol a mieri, fforio a gweithgareddau awyr agored, technoleg GPS technoleg uchel, sgiliau traddodiadol (rheoli llystyfiant) ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch.

Ariennir yr ymgyrch recriwtio gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae’n dechrau’r wythnos hon; y nod yw hyrwyddo pum cwrs o sesiynau hyfforddi tridiau’r un o fis Tachwedd i fis Rhagfyr.  Mae lleoedd yn gyfyngedig ond, os bydd llawer o alw, mae’n bosibl y bydd y cyrsiau’n rhedeg tan fis Ionawr 2012.

Dywedodd Clare Parsons, Rheolwr Cymunedau Cynaliadwy gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o lawer o ardaloedd i dderbyn cyfran o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn helpu i ddarparu hyfforddiant ar sgiliau cefn gwlad ac amgylcheddol ymarferol. 

 

“O ddysgu sut i dorri llwyni i helpu i ddarllen mapiau er mwyn magu hyder i chwilio am gyflogaeth amser llawn, rydym yn bwriadu darparu’r hyfforddiant am ddim hanfodol hwn i’r rhai a fu’n anweithredol yn economaidd neu’n wirfoddolwyr. Dechreuodd rhai o’n Rheolwyr Ardal a’n Wardeiniaid yn y Parc Cenedlaethol eu gyrfaoedd ar raglenni hyfforddi tebyg. Bydd pobl sy’n achub ar y cyfle hwn yn cael arweiniad arbenigol a gwell gwybodaeth am ragor o gyfleoedd o ran hyfforddi a chyflogaeth yn eu dewis feysydd gyrfa.”

Dywedodd Sam Harpur, Gweithiwr Ystad gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel gwirfoddolwr gyda’r Parc Cenedlaethol ei hun, mae’n deall pa mor foddhaus y gall cynlluniau fel hyn fod. 

 

“Dechreuais wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol tua phedair blynedd yn ôl, yn gwneud gwaith atgyweirio cyffredinol ar yr hawliau tramwy a rheoli’r amgylchedd. Cymerais ran yn yr amrywiaeth o gynlluniau hyfforddi a gynigiwyd ac wedyn gwnes i gais am y swydd fel Gweithiwr Ystad yn 2010. Helpodd yr holl sgiliau ymarferol a enillais yn y cyrsiau hyfforddi a thrwy wirfoddoli fi i weithio tuag at gael fy nghyflogi yn y Parc Cenedlaethol. Rwy’n gobeithio bod y stori hon yn profi y gall cymryd rhan fod yn fuddiol.”

 

Trefnir dyddiadau’r cwrs ar gyfer:  8-10 Tachwedd; 15-17 Tachwedd; 29-1 Rhagfyr; 6-8 Rhagfyr; 13-15 Rhagfyr.  

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr hyfforddiant am ddim neu i gael rhagor o wybodaeth am raglenni a gweithgareddau gwirfoddol cysylltwch â Huw Price, y Swyddog Datblygu Cymunedau ar 01874 624 437 neu anfonwch neges e-bost at huw.price@breconbeacons.org