Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi enillydd yr Her Teithio

I’w ryddhau 11 Hydref 2011

Cynhaliwyd Her Teithio’r Parc Cenedlaethol o fis Mai i fis Medi, gan annog ymwelwyr a phreswylwyr i ddefnyddio ffurfiau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i’r Parc Cenedlaethol ac i gyrraedd ar y bws, coets neu drên neu roi cynnig ar un o’r llu o ddewisiadau gwahanol i’r car wrth ymweld â’r ardal.
Cafodd enw’r ymgeisydd buddugol ei dynnu gan Ddyn Tywydd y BBC Derek Brockway yng Ngŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn gynharach y mis hwn.  Roedd Mrs Jacqueline Wynde wedi teithio heb gar drwy ddefnyddio gwasanaeth bysiau’r Bannau Brycheiniog a’i cludodd o Gaerdydd i Aberhonddu a’r Gelli.

Mynegodd Mrs Wynde ei syndod mawr wrth ennill a bellach mae hi’n edrych ymlaen at ddod yn ôl i’r Parc Cenedlaethol i fwynhau ei gwobr fawr, sef penwythnos cerdded a beicio ffantastig i’r teulu drwy garedigrwydd Caffi’r Bont yn Aberhonddu a Drover Holidays.

Hefyd rodd pum raffl fisol gyda gwobrau gan Gofal Croen Herbfarmacy, tanysgrifiadau i gylchgrawn Countryfile, 500 Great Escapes Richard Hammond a DVDau sy’n arddangos Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Mrs Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Bu’r her hon yn llwyddiant, ac rydym yn falch ei bod wedi codi ymwybyddiaeth ymwelwyr a phreswylwyr o’r effaith mae trafnidiaeth yn ei chael ar amgylchedd y Parc Cenedlaethol.  Defnyddiodd ein hymgeiswyr gymaint o wahanol ffurfiau ar drafnidiaeth megis Bysiau Bannau Brycheiniog a bysiau lleol, trenau, bygis trydan, beiciau mynydd, badau camlas, Rheilffordd Mynydd Brycheiniog – mae’n dangos os ydych yn cymryd yr amser i feddwl amdano nid oes gwir angen car arnoch i fynd o gwmpas y Parc Cenedlaethol. Hoffwn longyfarch ein henillydd, Mrs Jacqueline Wynde a’n holl ymgeiswyr eraill, heb sôn am y gefnogaeth ffantastig rydym wedi’i chael gan fusnesau lleol. Mae eu hymrwymiad i’r Her Teithio Werdd hon wedi gosod esiampl ddisglair i’r holl ymwelwyr a’r preswylwyr am fuddion defnyddio ffurfiau eraill ar drafnidiaeth yn lle car a mabwysiadu dull gwyrddach o fyw.”

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Yn y llun o’r chwith i’r dde gyda’r tocyn a enillodd:  Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda Dyn Tywydd BBC Cymru Derek Brockway a Jayne James o BBC Cymru.