Her gerdded gyda diweddglo gwych

Ymunwch â ni am ddiwrnod heriol o dynnu lluniau ar gylchdaith Llyn Llangors, a elwir yn ‘Bwlch with Altitude’, sy’n cynnwys taith gerdded 12 milltir ac sy’n dechrau am 11:00am ar ddydd Sadwrn 28 Awst.

Bellach, mae’r her yn ei thrydedd flwyddyn, ac mae’r gylchdaith o amgylch un o lynnoedd mwyaf hardd Cymru yn herio cerddwyr i dynnu lluniau o bethau penodol ar hyd y daith. Bydd y tîm sy’n cipio’r nifer fwyaf o luniau yn ennill £100 i’w roi i elusen o ddewis y tîm buddugol.

Mae’r daith gerdded yn dechrau ac yn gorffen ym Mwlch, ger Crughywel, a bydd yr her yn galw ar y timau i dynnu lluniau o bethau penodol wrth ymweld â dwy eglwys hardd – Llangors a Llangasty – wrth fwynhau’r golygfeydd gogoneddus dros Lyn Llangors – llyn fwyaf de Cymru.

Cefnogir y digwyddiad – sy’n dechrau am 11:00am ac yn costio £7 yr un – gan brosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y digwyddiad yn gorffen tua 5:00pm gyda chŵn poeth a sglodion rhad ac am ddim a noddir gan Siop Fferm y Bannau, Canolfan Cig Carw Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Sadwrn 12 Awst.

Dywedodd Rhys Champion, perchennog y New Inn a Beacons Backpackers: “Rydym wedi cael ein rhyfeddu dros y tair blynedd ddiwethaf gyda phoblogrwydd cynyddol Her ‘Bwlch with Altitude’ – sy’n anhygoel i bentref mor fach. Rydym wedi ychwanegu elfen newydd i’r her, sef y tynnu lluniau, a’r gobaith yw y bydd hynny’n denu mwy o bobl i’r digwyddiad. A’r newyddion da yw y gallwch ddod yma i gerdded y gylchdaith unrhyw adeg o’r flwyddyn.”

Am fwy o wybodaeth am yr her neu deithiau cerdded yn Bwlch, ewch i wefan www.bwlchwalks.co.uk neu cysylltwch â’r New Inn (Beacons Backpackers) ar 01874 730 215, www.beaconsbackpackers.co.uk neu infor@beaconspackpackers.co.uk.