Castell Carreg Cennen yn cynnal gŵyl ganoloesol

Bydd ymwelwyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael cyfle unigryw i gamu yn ôl mewn amser a mwynhau ychydig o hwyl y canol oesoedd mewn Gŵyl Ganoloesol sy’n cael ei chynnal gan berchnogion y castell, Mr and Mrs Llewellyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a CADW, fel rhan o Ŵyl Archeolegol Prydain.

Cynhelir yr ŵyl rhad ac am ddim rhwng 10:30am a 4:30pm trwy gydol y penwythnos, a gall ymwelwyr gymryd rhan mewn arferion traddodiadol y canol oesoedd a miri cyffredinol. Bydd llawer o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt, gyda’r mwyafrif wedi’u hanelu at blant. Gallwch ddysgu saethu bwa a saeth gyda chymorth saethwyr profiadol, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol canoloesol, gan gynnwys gwau helyg i greu basgedi, creu clwydi, nyddu, turnio a chreu crefftau. Yn wir, gallwch fwynhau’r holl brofiadau hanesyddol dilys hyn o fywyd yn y canol oesoedd mewn castell hardd, llawn bywyd – ond heb yr arogleuon canoloesol arferol! Gall oedolion ddysgu sut defnyddiodd eu cyndeidiau bren fel adnodd bob dydd, gan ei ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy – o goed tân i bren adeiladu, platiau a llwyau, gemau a ffensys, bowau a saethau. Bydd y penwythnos  yn llawn gweithgareddau a digwyddiadau i’r teulu cyfan.

Yn ogystal, bydd cyfle i ymwelwyr wisgo fyny mewn gwisgoedd canoloesol am y dydd! Ac yn gwau’r holl weithgareddau hyn at ei gilydd, bydd storïwyr, cerddorion a chymeriadau eraill i danio’ch dychymyg ac adfywio naws bywyd y canol oesoedd yn y castell. Yn ogystal, bydd wardeniaid a swyddogion addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal teithiau tywysiedig trwy’r coetiroedd traddodiadol sydd wedi’u lleoli islaw Castell Carreg Cennen.

Dywedodd Mr Bernard Llewellyn, perchennog Castell Carreg Cennen: “Rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn – mae’r amrywiaeth o ran cysyniadau archeolegol, pensaernïol, amgylcheddol a chymdeithasol yn berthnasol iawn i’r safle.”

Dywedodd Mrs Julie James, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwyf wrth fy modd ymweld â Chastell Carreg Cennen ar unrhyw achlysur, ond bydd y digwyddiad hwn yn gwneud yr ymweliad yn fwy o hwyl nag arfer. Mae nifer o sgiliau’r cyfnod yn cael adfywiad o ran poblogrwydd – turnio a gwneud basgedi, er enghraifft. Mae cael y cyfle i archwilio gwreiddiau hanesyddol y castell a chael rhyw syniad o sut oedd hi yn ystod y canol oesoedd yn cynnig mewnwelediad unigryw i ymwelwyr.”

Trefnir yr Ŵyl Ganoloesol yng Nghastell Carreg Cennen fel rhan o Ŵyl Archaeolegol Prydain (16-31 Gorffennaf) a chaiff ei gefnogi gan berchnogion y castell, Mr and Mrs Bernard Llewellyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a CADW.

Bydd parcio yn rhad ac am ddim a bydd bwyd a lluniaeth ar gael yng nghaffi’r castell. Os nad ydych wedi ymweld ag adfeilion ysblennydd Castell Carreg Cennen, maen nhw’n werth eu gweld ac mae’r ŵyl ganoloesol yn sicrhau y bydd yn ddiwrnod i’w gofio.

Mae Castell Carreg Cennen, sydd wedi’i leoli yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif o leiaf, er bod tystiolaeth archaeolegol bod y Rhufeiniaid a phobloedd cynhanesyddol wedi byw ar gopa’r mynydd ganrifoedd ynghynt. Mae hanes y castell yn cynnwys meddiannaeth gan Dywysogion Cymru’r Deheubarth, Hugh le Despenser, John o Gaunt a Harri o Bolingbroke (a ddaeth yn Frenin Harri’r IV). Heddiw, Castell Carreg Cennen yw un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Yn wir, mae dros 100,000 o bobl yn ymweld â’r castell bob blwyddyn. Yn ogystal, mae’r castell yn gefnlen drawiadol i leoliad priodasau newydd sydd wedi’i adeiladu gan Mr a Mrs Llewellyn. Ac er bod y clientiaeth wedi newid yn ddramatig dros y canrifoedd, mae’r castell yn parhau i gadw ei atgofion hanesyddol pwysig yn fyw trwy gynnal Gŵyl Canoloesol am y tro cyntaf eleni.

Am fwy o wybodaeth am fynychu’r ŵyl neu gyfrannu at y digwyddiad, cysylltwch â Menna Bell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar M.bell@dyfedarchaeology.org.uk neu 01558 823121.

-DIWEDD-