Cadeirydd newydd yn cael ei ethol yn unfrydol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mewn Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a gynhaliwyd yn gynharach heddiw, etholwyd Mrs Julie James, un o wyth aelod a benodwyd i’r Awdurdod gan Lywodraeth Cymru, yn unfrydol fel Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan bob un o’r 23 aelod a oedd yn bresennol. Mae Mrs James yn cymryd lle’r Cynghorydd Eric Saxon o Gyngor Sir Fynwy. Mae’r Cynghorydd Martin Weale o Gyngor Sir Powys wedi’i ethol fel Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod. 

Yn ei haraith i’r Aelodau, dywedodd Mrs James y dylai’r Awdurdod roi gwerth natur wrth graidd eu penderfyniadau. Dywedodd mai amgylchedd naturiol iach sy’n gweithio fel y dylai yw sail tyfiant economaidd parhaus, cymunedau sy’n ffynnu a lles personol.  

Wrth annerch yr Aelodau yn dilyn ei phenodiad fel Cadeirydd, dywedodd Mrs James: “Mae’n anrhydedd fawr i gael fy mhenodi fel Cadeirydd yr Awdurdod gan fy nghydweithwyr ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd yn ystod y flwyddyn nesaf ac arwain yr Awdurdod. Rwy’n bwriadu canolbwyntio ar aelodau – y cyhoedd yn bennaf, sy’n haeddu Awdurdod Parc Cenedlaethol y gallant fod yn falch ohono. Yn ail, aelodau staff, oherwydd eu bod nhw yn allweddol o ran gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae eu hymrwymiad brwdfrydig nhw i gadwraeth ac i’r amgylchedd yn debyg i ymrwymiad Aelodau’r Awdurdod, a nhw yw’r gydran olaf angenrheidiol i greu Awdurdod llwyddiannus sy’n addas i’r diben. Mae tîm o aelodau rwy’n cydweithio gyda hwy yn meddu ar wybodaeth ac arbenigedd estynedig fydd yn ein helpu ni i fynd i’r afael â’r heriau byddwn ni, fel awdurdod, yn eu hwynebu. Os gallwn fanteisio ar y cryfderau hyn, byddwn yn siŵr o lwyddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Martin Weale, Dirprwy Gadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n gyfnod cyffrous i Awdurdod y parc Cenedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r Cadeirydd. Mae gennym ni dîm ardderchog o aelodau sydd yn agored ac sy’n edrych tuag allan, ac mae eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Parc yn ymwneud â chanolbwyntio ar ffyniant ein cymunedau a’n hamgylchedd unigryw. Yn syml, mae eu dyfodol nhw a’n dyfodol ni yn mynd law yn llaw. Mae hi’n anrhydedd i gynrychioli’r Awdurdod hwn fel Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.”

Dywedodd John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Hoffwn estyn croeso cynnes i Mrs Julie James, ein Cadeirydd newydd, ac i’r Cynghorydd Martin Weale, y Dirprwy Gadeirydd. Mae swyddogion yr Awdurdod hwn yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ddau ohonynt a phob un o’n haelodau yn ystod flwyddyn nesaf. Yn ogystal hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Eric Saxon, y cyn-gadeirydd, sydd wedi arwain Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Etholwyd y Cynghorydd Evan Morgan o Gyngor Sir Powys fel Cadeirydd dros Gynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, a’r Cynghorydd Huw Morgan o Gyngor Sir Gaerfyrddin fel Dirprwy Gadeirydd.

Ail-etholwyd Mr Richard Snow, aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn unfrydol am ail flwyddyn fel Cadeirydd Archwilio a Chraffu, gyda’r Cynghorydd John Morris o Gyngor Sir Powys yn cael ei ethol fel Dirprwy Gadeirydd. 

Am fwy o wybodaeth am y newidiadau i strwythur y pwyllgor ac i’r aelodaeth, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: www.breconbeacons.org.

-DIWEDD-

Hawlfraint y llun – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

O’r chwith i’r dde – Y Cynghorydd Martin Weale, Dirprwy Gadeirydd; Mrs Julie James, Cadeirydd a Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae Mrs Julie James yn angerddol am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae wedi byw yn ardal Mynydd Du y Parc Cenedlaethol ers un ar ddeg o flynyddoedd. Cyn ymuno â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, hi oedd Cyfarwyddwr Personel Monarch Airlines a Monarch Aircraft Cyf., cwmni sy’n cyflogi 3,000 o aelodau staff. Hi oedd un o sefydlwyr Fforwm Mynediad Ardaloedd Lleol y Gorllewin cyn ymuno ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel aelod a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2006. Cafodd ei hethol yn Ddirprwy Gadeirydd yn 2010 ac roedd hi hefyd yn Eiriolwr Datblygiad Aelodau a Chadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraethu Corfforaethol.

Yn ogystal, mae hi’n cyflawni nifer o rolau cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Cyfarwyddwr Anweithredol Arolygiaeth Ysgolion Estyn, Cyfarwyddwr Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol De Orllewin Cymru, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Gaerfyrddin ac mae hi’n Asesydd Iechyd ar Waith Llywodraeth Cymru.