Rhydian yn cefnogi Gŵyl Defaid Llanymddyfri

(I’w ryddhau 10 Awst 2011)

Er na all Rhydian, sy’n gyn brif fachgen Coleg Llanymddyfri a chwaraewr rygbi o fri, fynychu’r ŵyl yn bersonol ar 24 a 25 Medi – gan y bydd y cyn seren X Factor yn brysur yn recordio ei sioe newydd ar gyfer S4C – mae wedi anfon copi wedi’i lofnodi o’i record hir, O Fortuna, at y trefnwyr, ynghyd â chopi o’i record newydd, Waves, a  llun wedi’i lofnodi, ar gyfer eu rafflo yn y digwyddiad.

Cynhelir Gŵyl Defaid Llanymddyfri ar 24 a 25 Medi ac mae’n cael ei hariannu gan brosiect Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Banc Lloyds, Cyngor Tref Llanymddyfri a nifer o fusnesau eraill ledled tref Llanymddyfri.

Wrth siarad am ei gefnogaeth tuag at Lanymddyfri a’r Ŵyl Defaid, dywedodd Rhydian: “Mae Llanymddyfri – y Coleg a’r dref – wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, ac mae’n wych gweld yr ymdrechion sydd ar waith i helpu adfywio’r dref.

“Rwy’n dymuno deuddydd heulog a llwyddiannus i’r ŵyl, ac y bydd y Raffl Fawr yn codi’r arian sydd ei angen ar gyfer llwyddiant y fenter yn y dyfodol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y digwyddiad.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy albwm newydd, Waves, yn denu pawb i ddawnsio i’r gerddoriaeth yn Sgwâr y Farchnad.”

Bydd recordiau a llun Rhydian Roberts ymhlith nifer o wobrau disglair a fydd ar gael yn y Raffl Fawr. Mae EUB Tywysog Cymru – sy’n noddwr ffyddlon yr ŵyl – wedi cyfrannu plât a gynlluniwyd gan fyfyriwr yn Ysgol Celfyddydau Traddodiadol y Tywysog, mae Menter Mynyddoedd Cambria wedi cyfrannu hamper moethus, ac mae matres o wlân organig gan Abaca hefyd yn wobr deilwng i godi arian ar gyfer Gŵyl Defaid.

Bydd llawer o wobrau eraill gan fusnesau lleol a stondinwyr yn yr ŵyl yn helpu hybu gwerthiant nid yn unig er lles yr ŵyl, ond hefyd ar gyfer elusennau eraill gan gynnwys Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanymddyfri a menter Maint Cymru. Bydd tocynnau’r Raffl Fawr ar werth ledled y dref yn ystod yr wythnosau nesaf, a gellir eu prynu hefyd yng nghaffi Red Giraffe ac yn Nhafarn y Llew Coch yn Sgwâr hanesyddol y Farchnad yn Llanymddyfri.

Bydd yr ŵyl yn cynnig mwy i’w weld a’i wneud i’r nifer sylweddol o ymwelwyr a fydd yn y dref eisoes, a, gobeithir y bydd yn annog a chadw gwariant ymwelwyr yng nghanol y dref. Yn ogystal â darparu llawer o bethau hwyliog i blant ac oedolion fel ei gilydd i’w gweld a’u gwneud, gobeithir y bydd yn addysgu ymwelwyr ynghylch ffermio defaid hefyd a’r materion sy’n wynebu ffermwyr defaid, sydd wedi gweld gostyngiad mewn pris gwlân yn ddiweddar.

Caiff yr ŵyl ei chynnal tua’r un adeg ag Wythnos Genedlaethol Gwlân, sy’n digwydd ym mis Medi eleni, fel rhan o’r Ymgyrch Dros Wlân a gafodd ei sefydlu gan Dywysog Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Defaid Llanymddyfri, cysylltwch â Fiona Walker, Cadeirydd Siambr Fasnach Llanymddyfri a’r Cylch, ar 07974 434 991.

 

-DIWEDD-

Lluniau:  Hawlfraint Rhydian Roberts

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae Prosiect COLLABOR8 yn cael 50% o’i arian oddi wrth Raglen Interreg 4B Gogledd-orllewin Ewrop Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).  Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth sy’n cynnwys naw partner gwahanol o Gymru, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Iwerddon a Lloegr. Ei nod yw annog clystyrau o fusnesau bach i ddatblygu ansawdd, cynaliadwyedd a gwasanaethau sy’n hyrwyddo ‘ymdeimlad o le’ yn lleol. Yn y modd hwn bydd pob clwstwr twristiaeth yn gallu manteisio ar unigrywiaeth eu rhanbarthau er mwyn cystadlu’n well ym marchnadoedd yr UE a marchnadoedd byd-eang. Am fwy o wybodaeth ynghylch Collabor8, cysylltwch â Swyddog Collabor8 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Nick Stewart, ar 01874 620490 neu nick.stewart@breconbeacons.org.  

2. Mae’r partneriaid sy’n ymwneud â phrosiect COLLABOR8 fel a ganlyn: South Kerry Development Partnership Ltd. (Iwerddon) (Partner Arweiniol); Gwasanaeth Llywodraeth y DLG ar gyfer Rheoli Tir a Dŵr: Swyddfa Prosiect Cenedlaethol Newydd Adran Llinell Ddŵr yr Iseldiroedd (yr Iseldiroedd); Stichting Stiwdio VMK (yr Iseldiroedd); Asiantaeth Tir Fflandrys (Gwlad Belg); Twristiaeth Dwyrain Fflandrys (Gwlad Belg), Ymddiriedolaeth Afonydd Westcountry (y DU); Awdurdod Parc Cenedlaethol y Twyni Deheuol (y DU); Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (y DU), a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y DU ).

3. Os ydych chi’n newyddiadurwr sy’n ysgrifennu erthygl nodwedd ac os hoffech chi ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth a lluniau i’r wasg, cysylltwch â Samantha Games, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar 01874 620 420 neu anfonwch e-bost at samantha.games@breconbeacons.org.  

4. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd sy’n cynnig etifeddiaeth heb ei hail gyda’i gadwyni o fynyddoedd godidog, daeareg o fri rhyngwladol, bywyd gwyllt niferus a chyfleoedd hamdden amrywiol. Mae’n cynnwys rhai o’r ffurfiannau ucheldir mwyaf trawiadol a nodedig yn ne Prydain, ac mae’n ymestyn dros ardal o 1,347 km sgwâr (520 milltir sgwâr).

5. Mae Maint Cymru yn gynllun cenedlaethol unigryw i gynnal ardal o goedwig drofannol maint Cymru fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i newid yn yr hinsawdd. Caiff ‘ardal maint Cymru’ ei ddefnyddio’n aml i fesur cyfradd dinistrio coedwigoedd a’r nod yw troi’r defnydd negyddol hwn o faint y wlad ar ei ben, drwy annog pobl Cymru i gymryd camau cadarnhaol a helpu diogelu ardal o goedwig drofannol sy’n cyfateb i faint y Dywysogaeth.