Nick Ramsay AC yn archwilio gwaith prosiect y Parc Cenedlaethol

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch i hysbysu’r Aelod y Cynulliad ynghylch y prosiectau cynaliadwy diweddaraf y mae wedi’u galluogi yn ardaloedd Abercraf, Pontneddfechan, Talgarth a Myddfai. Bu Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a Mr Julian Atkins, y Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir a Chefn Gwlad, yn cyflwyno Mr Ramsay i rai o fentrau allweddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan gynnwys Geoparc y Fforest Fawr, Gwlad y Rhaeadrau, Collabor8 a’r gwaith cychwynnol i helpu sefydlu’r fenter Cymoedd Gwyrdd sydd bellach ar waith yn annibynnol o fewn y Parc.

Gan roi sylwadau yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Nick Ramsay AC:  “Mae’r gwaith y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei wneud yn drawiadol iawn – mae cymaint yn mynd yn ei flaen, mae’n anodd dirnad y cyfan mewn un ymweliad.  Rwy’n arbennig o falch ynghylch y rôl galluogi sydd wedi cael ei mabwysiadu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol o safbwynt ynni gwyrdd. Mae’r gosodiad micro-hydro a welsom ar fferm Mr Howell Williams yn Abercraf yn dangos yr hyn y gellir  ei gyflawni gyda dychymyg a dycnwch.  Byddaf yn awgrymu wrth fy nghydweithwyr y dylent weld y gwaith sy’n cael ei wneud ac rwy’n gobeithio y gallwn drefnu ymweliad arall yn ddiweddarach eleni.”

Dywedodd Mrs Margaret Underwood, Pencampwr Bioamrywiaeth Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’n dda iawn ein bod wedi dangos i Nick rhan fechan yn unig o’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi cymunedau a busnesau lleol. Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddefnyddio ffynonellau cyfyngedig o arian megis y gronfa datblygu cynaliadwy i ddenu adnoddau ychwanegol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau ynni gwyrdd.”

Dywedodd Mr Julian Atkins, y Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir a Chefn Gwlad: “Roedd  gan Mr Ramsay ddiddordeb mawr yn ein prosiectau pellgyrhaeddol, yn enwedig ein gwaith ar ddatblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Roedd yn amlwg yn wybodus ynghylch materion lleol a chenedlaethol sydd yn eu hwynebu ac rydym yn teimlo y bu’r ymweliad yn hynod fuddiol. Edrychwn ymlaen at gynnal ymweliadau safle yn y dyfodol gyda Mr Ramsay a’i gydweithwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”