Hwyl i’r teulu yn y Ffair Haf gyda bwyd a chrefftau lleol

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn flynyddol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus, ac mae’r cynnwrf yn codi ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Benwythnos Gŵyl y Banc Awst (28 i 30 Awst) yn llawn hwyl a chyffro. Beth bynnag fo’r tywydd, gall ymwelwyr bori ymhlith amrywiaeth rhyfeddol o fwydydd, celf a chrefft lleol, tra caiff y plant eu diddanu gan bob math o hwyl a gweithgareddau ysbrydoledig. Bydd paentio wynebau, castell neidio, Band Samba byw a Band Jazz wrth law i ddifyrru oedolion a phlant!

Andrew Powell yw Rheolwr Arlwyo’r Ystafelloedd Te yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ac ni allai fod yn hapusach o wybod bod disgwyl i dros 10,000 o ymwelwyr ddangos awydd pendant am fwyd, celfyddydau a chrefftau gorau Cymru, gyda dros 70 o stondinau masnach wedi archebu lle mewn pebyll ac ar dir y ganolfan. Bydd gweithgareddau i blant ac adloniant byw ar gael – yr unig broblem i’r ymwelwyr fydd dewis beth i’w brynu. Andrew yw’r person prysur sy’n trefnu’r Ffair Haf a Gwyliau Bwyd y Gelli ac Aberhonddu, ac sy’n rheoli Ystafelloedd Te’r Parc Cenedlaethol. Mae’r Ffair Haf yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Parc Cenedlaethol, ac mae’n rhoi’r cyfle a’r lleoliad perffaith i gynhyrchwyr lleol hyrwyddo cynnyrch o Gymru. O ran yr ymwelwyr, nid nifer y masnachwyr yw’r unig beth pwysig: mae’n gyfle i ddarganfod y cynhyrchwyr gorau yng Nghymru o ran ansawdd; a gyda thri diwrnod i bori ymhlith y stondinau, bydd ymwelwyr yn sicr o ddod o hyd i rywbeth a fydd yn eu plesio.

Dywedodd Andrew Powell: “Mae Ffair Haf flynyddol y Parc Cenedlaethol yn un o’n digwyddiadau mwyaf o ran maint a llwyddiant – diolch yn bennaf i’r holl bobl leol a busnesau bach a chynhyrchwyr Cymreig sy’n dod i’n cefnogi ni bob blwyddyn. Pa ffordd well o ddathlu’r penwythnos gŵyl y banc na thrwy bori drwy’r amrywiaeth gwych o grefftau a chynnyrch Cymreig a bwyd lleol? Rydym yn gobeithio y cawn dywydd braf ar y penwythnos, ond hyd yn oed os bydd hi’n bwrw glaw, bydd y sioe yn mynd yn ei blaen.”

Mae Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wrth ei bodd â phoblogrwydd y Ffair Haf. Dywedodd: “Mae celfyddydau, bwyd a diod lleol yn gaffaeliad mawr i Gymru ac wrth i ni edrych ar ganolbwyntio ar yr hinsawdd economaidd, gall yr asedau hyn chwarae rhan bwysig yn adferiad economi Cymru. Bob blwyddyn mae’r Ffair Haf yn tyfu’n fwy o ran ei maint a’i llwyddiant, a dylem oll ganmol ei hamcanion. Os gallwn annog teuluoedd i brynu a mwynhau bwyd a diod lleol sy’n cael eu cynhyrchu ar garreg ein drws, yna rydym wedi helpu cefnogi cynhyrchwyr Cymru a’r bobl sydd nid yn unig yn cynhyrchu nwyddau gwych ond sydd hefyd yn gwella’r economi. Mae’r cyfan yn helpu meithrin enw da Cymru o ran celfyddydau, bwyd a diod rhagorol. Felly, os ydych yn byw yma, yn gweithio yma neu newydd ddod i ymweld, yn bendant bydd rhywbeth a fydd yn apelio at y teulu cyfan yn ein Ffair Haf.”