Canfod gwyfyn prin sy’n hoffi’r nos ym Mannau Brycheiniog

(I’w ryddhau 3 Awst 2011)

Cafodd y gwyfyn Silwraidd prin ei ganfod o ganlyniad i arolygon nos ar wyfynod a gynhaliwyd dros y misoedd diwethaf mewn nifer o ardaloedd yn y Mynydd Du, ar dir comin yng ngofal ac o dan reolaeth porwyr lleol, perchnogion tir ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gyda chefnogaeth ariannol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, trefnwyd yr arolygon nos gan Dave Grundy o Birmingham, sy’n arbenigwr ar wyfynod, Robin Hemming o Swydd Henffordd, a Dr Norman Lowe o Grŵp Gwyfynod Brycheiniog.

I ddarganfod pa wyfynod sy’n byw mewn ardal benodol, caiff gwyfynod eu denu tuag at drapiau golau lle maent yn cael eu casglu’n ofalus, eu nodi a’u rhyddhau. Cafodd trapiau golau eu gosod mewn nifer o leoliadau gwahanol dros y misoedd diwethaf a chafodd yr ymchwilwyr eu gwobrwyo wrth weld bron i ddwsin o wyfynod Silwraidd yn ymddangos yn y trapiau mewn rhan anghysbell o Grib Hatterall ar noson 4 Gorffennaf. Cafodd y rhywogaeth ei recordio gyntaf yn y DU ym 1976 ar ochr bryn ym Mlaenau Gwent a dyma’r tro cyntaf erioed iddo gael ei ddarganfod yn unrhyw fan arall.

Mae lindys y gwyfyn yn byw ar blanhigion llus sydd i’w cael ar draws Bryn Hatterall, sef tir comin unigryw sydd â’r diogelwch ychwanegol o fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. 

Dywedodd Clive Williams, Rheolwr Ardal y Dwyrain Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae canfod y gwyfyn Silwraidd yn y Mynydd Du yn ddarganfyddiad o bwysigrwydd eithafol. Mae’n hynod o brin gan fod y creadur hwn yn arbenigwr ucheldir go iawn a dim ond gwmpas 1.00am ymlaen y mae’n hedfan, sy’n golygu na chaiff ei ganfod fel arfer gan arolygwyr gwyfynod. Mae gweld gwyfynod prin ar y comin hwn i’w groesawu’n fawr, gan fod hyn yn dangos bod rheolaeth ofalus gan y porwyr wedi creu cynefin sydd wedi annog y rhywogaeth brin hon i oroesi. Mae hyn yn newyddion cyffrous nid yn unig o ran cynyddu bioamrywiaeth ymhlith bywyd gwyllt – yn enwedig yn achos y rhywogaethau hynny sydd wedi cael eu cydnabod fel rhai o dan fygythiad – ond hefyd oherwydd y gallwn nawr gadarnhau yn swyddogol presenoldeb y gwyfynod Silwraidd ar y Mynydd Du yn Sir Fynwy a Swydd Henffordd. Rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda phorwyr lleol, tirfeddianwyr ac arbenigwyr ar wyfynod yn y dyfodol agos i ddarganfod mwy am arferion ac ymddygiad y creadur hwn.”

Dywedodd Dave Grundy, sy’n arbenigwr ar wyfynod, a ddaw o Birmingham: “Rydym wedi bod yn chwilio am y rhywogaeth arbennig hon mewn ardaloedd o gynefin addas ar y Mynydd Du ers peth amser. Pan ddaethom o hyd iddo o’r diwedd, roedd y gwyfyn yn ymddwyn yn rhyfedd iawn yn y trap, gan redeg o gwmpas mewn cylchoedd. Roeddem yn gofyn tybed ai dyma oedd y rheswm dros ei enw gwyddonol, sef Eriopygodes imbecilla, sy’n cyfieithu’n fras fel ‘gwirionyn’.”

Dywedodd Dr Norman Lowe o Grŵp Gwyfynod Brycheiniog: “Mae’r gwyfyn Silwraidd mor brin fel ei fod ar restr y Llyfr Data Coch o rywogaethau mewn perygl – yn wir dyma’r unig rywogaethau mewn perygl sydd ar y Mynydd Du. Mae’r arolwg wedi profi nad yw’r rhywogaeth wedi’i chyfyngu i un safle’n unig, ond ei bod yn bresennol mewn ardaloedd eraill hefyd, sy’n newyddion da o ran goroesiad hirdymor y rhywogaeth hon yng Nghymru. Mae gan wyfynod le pwysig mewn cadwyni bwyd naturiol ac maen nhw’n ddangosyddion da ynghylch cyflwr cyffredinol yr amgylchedd naturiol gan fod cysylltiad agos rhyngddynt â rhywogaethau o blanhigion penodol sy’n fwyd i’r lindys. Mae hon yn rhywogaeth newydd i Fannau Brycheiniog a gellir ychwanegu enw arall at y rhestr o dros 1,000 o rywogaethau o wyfynod a geir o fewn y Parc Cenedlaethol.”

Dywedodd Margaret Underwood, Pencampwr Bioamrywiaeth Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Er mai dim ond un gwyfyn bach ydyw, mae’n dal i fod yn rhan o we wych bywyd y mae pawb ohonom yn dibynnu arni. Y newyddion da yw bod gennym bellach ddwy boblogaeth hysbys o’r gwyfyn prin hwn o fewn tafliad carreg i’w gilydd. Mae hyn yn golygu ein bod un cam yn nes at sicrhau y bydd rhan arall o’n byd natur yn parhau i fod yn gyfan.”

Cafodd y gwaith arolygu ei ariannu gan Gronfa Cadwraeth a Chymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n gweinyddu grantiau i brosiectau amgylcheddol o roddion gan gwmnïau sy’n defnyddio’r Parc Cenedlaethol fel lleoliad ar gyfer ffilmio.

Dywedodd Clare Parson, sy’n Rheolwr Cymunedau Cynaliadwy: “Rydym yn falch fod y gwaith arolygu hwn wedi bod yn llwyddiannus ac yn llongyfarch Dave, Robin a Norman ar eu holl waith caled ac oriau hir yn y chwiliad hwn. Mae’n dangos y gellir defnyddio’r symiau grant cymedrol sydd ar gael mewn modd effeithiol i gael dealltwriaeth well o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau naturiol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Am fwy o wybodaeth am Gronfa Cadwraeth a Chymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, cysylltwch â Clare Parsons ar 01874 620 234 neu anfonwch e-bost at clare.parsons@breconbeacons.org.