Rhan1: Cod Ymarfer ar Fynediad y Cyhoedd at Wybodaeth

1.           Pwrpas
Mae’r Cod Ymarfer hwn yn datgan yr egwyddorion sy’n sail i ddull Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o hyrwyddo llywodraethu agored ac mae’n cadarnhau ei ymrwymiad i fod yn agored.

2.           Statws y Cod hwn
Nid yw’r Cod hwn yn ddogfen gyfreithiol ac nid yw’n rhoi hawliau nac yn drech nag unrhyw ddarpariaethau cyfreithiol neu statudol sydd naill ai’n galw am ddatgelu gwybodaeth neu’n atal hynny.

Mae’r Cod yn berthnasol i wybodaeth a gedwir gan yr Awdurdod. Mae contractau gyda chwmnïau preifat y cytunwyd iddynt gan yr Awdurdod yn cynnwys telerau perthnasol i ddatgelu gwybodaeth.

Drwy gydol y Cod hwn, mae unrhyw gyfeiriad at yr Awdurdod yn cyfeirio at  Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

3.           Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae’r Cod yn ystyried nodweddion allweddol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), gan gynnwys y categorïau o wybodaeth eithriedig y manylir arnynt yn y ddeddfwriaeth hon.

4.      Nodweddion allweddol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyffredinol i fynediad at wybodaeth sydd wedi’i chofnodi a gedwir gan yr Awdurdod ac mae’n pennu dwy ddyletswydd gyffredinol i’r Awdurdod:

  • Cadarnhau neu wadu ei fod yn cadw’r wybodaeth y gwneir cais amdani, ac;
  • Os yw’r wybodaeth ganddo, rhoi mynediad ati i’r person sy’n gwneud cais amdani.

Hefyd, mae’r Ddeddf yn gwneud y canlynol:

  • Darparu cyfyngiadau amser statudol ar gyfer cydymffurfio â chais am wybodaeth
  • Datgan ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod roi cyngor a chymorth i bobl sy’n gofyn am wybodaeth
  • Datgan ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod nodi sail ar gyfer gwrthod cais am wybodaeth a rhoi cyngor ar sut mae cwyno o dan yr amgylchiadau hynny

Mae’r dyletswyddau hyn yn amodol ar eithriadau sydd wedi’u datgan yn Atodiadau 1 a 2.

Er bod rhai o’r eithriadau hyn yn absoliwt, mae eraill yn gymwysedig, sy’n golygu bod rhaid i’r Awdurdod ddefnyddio’r hyn a elwir yn brawf budd y cyhoedd cyn penderfynu gwrthod rhoi gwybodaeth neu ei rhyddhau. Mae’n rhaid i’r Awdurdod asesu, o dan yr holl amgylchiadau, a yw’r budd i’r cyhoedd o gadw at yr eithriad yn fwy na’r budd i’r cyhoedd wrth ddatgelu’r  wybodaeth.

Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r Awdurdod wahaniaethu rhwng beth sydd wirioneddol o fudd i’r cyhoedd a beth sydd ond o ddiddordeb i’r cyhoedd.

Ar wahân i’r eithriadau y cyfeirir atynt uchod, mae’r Ddeddf yn datgan hefyd y caiff yr Awdurdod wrthod cadarnhau neu wadu a oes ganddo’r wybodaeth a/neu roi mynediad ati o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Pe bai gwneud hynny’n costio mwy na’r cyfyngiad a nodwyd
  • Os oes angen talu ffi ac os nad yw wedi cael ei thalu
  • Mae’r ceisiadau’n flinderus neu’n cael eu hailadrodd neu pan dderbynnir ceisiadau hynod debyg gan yr un person
  • Nid yw’r ymgeisydd wedi rhoi digon o fanylion i adnabod y wybodaeth sydd ei hangen

Mae’n ofynnol hefyd i’r Awdurdod fabwysiadu, gweithredu, cynnal ac adolygu’n rheolaidd gynllun cyhoeddi sy’n ymrwymo’r Awdurdod i gyhoeddi rhai dosbarthiadau o wybodaeth yn rheolaidd, heb fod angen gwneud cais am ei gweld. Mae’n rhaid i’r cynllun fanylu ar y canlynol:-

  • Dosbarthiadau’r wybodaeth y mae’r Awdurdod yn ei chyhoeddi fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol
  • Sut mae cael y wybodaeth
  • A yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu a oes raid talu

5.      Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod annibynnol sydd wedi’i sefydlu i hybu mynediad at wybodaeth swyddogol. Mae ei dyletswyddau’n cynnwys hybu cadw at ofynion y Ddeddf, hybu arferion da ac ymchwilio i gwynion am fethiant awdurdod cyhoeddus i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Ar ôl ymchwilio i gŵyn, efallai y bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn gorfodi awdurdod cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth, os credir fod gwrthod ei rhoi’n anghywir.

6.      Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Pan wneir cais am wybodaeth wedi’i chofnodi sydd wedi’i diffinio fel ‘gwybodaeth amgylcheddol’, bydd y cais yn cael sylw o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (y Rheoliadau) yn hytrach na’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau’n rhoi hawl gyffredinol i fynediad at wybodaeth sy’n dod o dan ddiffiniad gwybodaeth amgylcheddol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • Cyflwr elfennau’r amgylchedd, fel yr aer, yr atmosffer, y dŵr a’r tir, a’r rhyngweithio rhwng yr elfennau hyn
  • Ffactorau sy’n effeithio neu’n debygol o effeithio ar yr elfennau hyn, fel allyriadau, sŵn, ymbelydredd a gwastraff
  • Mesurau a gweithgareddau sy’n effeithio neu’n gallu effeithio ar yr elfennau a’r ffactorau hyn
  • Adroddiadau ar weithredu’r ddeddfwriaeth amgylcheddol
  • Dadansoddiad budd cost a dadansoddiadau economaidd eraill a ddefnyddir yn y mesurau a’r gweithgareddau y cyfeirir atynt uchod
  • Cyflwr iechyd a diogelwch dyn os effeithir ar hyn gan elfennau’r amgylchedd

Mae dau wahaniaeth allweddol rhwng y Rheoliadau a’r Ddeddf:

  • Gellir gwneud ceisiadau ar lafar
  • Mae’r amgylchiadau ble gellir gwrthod ceisiadau’n fwy cyfyngedig

Mae’r Rheoliadau’n cynnwys tueddiad i ffafrio datgelu ac, fel yn y Ddeddf, os bydd yr Awdurdod yn gwrthod rhoi gwybodaeth mae’n ei chadw, mae’n ofynnol iddo ddatgan yn ysgrifenedig ei resymau dros wneud hynny, gan ddefnyddio un o’r eithriadau i’r ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth. Mae’r eithriadau hyn wedi’u nodi yn Atodiad 3.

7.      Egwyddorion allweddol dull yr Awdurdod o fod yn agored
Er gwaethaf gofynion y Ddeddf a’r Rheoliadau, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i’r egwyddorion canlynol, sy’n cael eu hesbonio’n fanylach yn Rhan 3:

  • Bod mor agored â phosib yn ei ddull o gynnal ei fusnes
  • Cyflwyno gwybodaeth mewn iaith glir, yn unol â’i gynllun iaith a chan ystyried gwahanol anghenion
  • Gwneud defnydd helaeth o wefan yr Awdurdod http://www.beacons-npa.gov.uk/ fel cyfrwng i gyhoeddi gwybodaeth
  • Darparu ymatebion prydlon a chynhwysfawr i geisiadau am wybodaeth
  • Darparu hawl i gwyno os nad yw aelod o’r cyhoedd yn fodlon gyda’r ymateb y mae wedi’i dderbyn
  • Darparu gwybodaeth am ddim os yw hynny’n bosib, a chyngor clir am ffioedd a phryd maent yn berthnasol
  • Parchu preifatrwydd personol, cyfrinachedd masnachol, y ddyletswydd o hyder a phob deddf sy’n llywodraethu rhyddhau gwybodaeth

 

8.      Adolygu’r Cod Ymarfer ar Fynediad y Cyhoedd at Wybodaeth
Bydd y Cod hwn yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn bodloni gofynion statudol, ac unrhyw godau ymarfer a wneir o dan y Ddeddf.