Rhan 2: Ceisiadau am wybodaeth

1.      Rhoi cyngor a chymorth      

Bydd yr Awdurdod, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ac yn bosib, yn rhoi i ddarpar ymgeiswyr gyngor a chymorth mewn perthynas â’u ceisiadau am wybodaeth.

Dylai unrhyw un sydd eisiau cyngor ar fynediad at wybodaeth gysylltu â’r Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd wedi’u nodi isod.

2.      Gwneud cais am wybodaeth

Rhaid cyflwyno Ceisiadau am Wybodaeth yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio un o’r cyfryngau canlynol:

  • Drwy’r post, i’r cyfeiriad canlynol:

Y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Plas Y Ffynnon,

Ffordd Cambrian

Aberhonddu

Powys

LD3 7HP

  • Drwy e-bost

enquiries@beacons-npa.gov.uk

  • Neu drwy ddefnyddio’r ffurflen yma

Yr eithriadau i’r gofyniad hwn yw ceisiadau a wneir o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gellir gwneud y rhain ar lafar a bydd y Swyddog yn cofnodi’r manylion gan ddefnyddio Ffurflen Cais Llafar

Rhaid i geisiadau am wybodaeth gynnwys y canlynol:

  • Cyfeiriad post neu e-bost ar gyfer anfon ateb iddo
  • Digon o fanylion i swyddogion ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen – os nad yw cais yn cynnwys digon o fanylion i swyddogion benderfynu pa wybodaeth mae’r ymgeisydd ei heisiau, gellir gofyn am esboniad

Os nad yw person yn gallu cyflwyno ei gais ef neu hi yn ysgrifenedig, bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi er mwyn galluogi gwneud cais am wybodaeth. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

Rhoi gwybod iddo bod person arall neu asiantaeth (fel Cyngor Ar Bopeth) yn gallu ei helpu gyda’r cais o bosib, neu wneud cais ar ei ran