Cais i siarad mewn Pwyllgorau

Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen erbyn 10:00am ar y dydd Iau cyn cyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a Phwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy ac erbyn 10:00am ar y dydd Mawrth cyn cyfarfodydd  Pwyllgor Archwilio a Chraffu.

Mae’r Aelodau wedi mabwysiadu ein polisi cyfarfod aml-leoliad yn unol â deddfwriaeth Cymru. Cynhelir pob cyfarfod o’r Awdurdod o bell trwy Teams, felly bydd angen i’r holl gyfranogwyr ymuno â’r cyfarfod yn unigol drwy Teams.

Datganiad preifatrwydd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ymrwymo i sicrhau bod data personol yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio mewn modd cyfrifol wrth iddo gyflawni ei fusnes, dan ofynion Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2016 yr UE. Byddwn yn sicrhau bod data personol yn cael ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon a bod hawliau’r sawl sy’n destun data yn cael eu parchu’n briodol.

Wrth gasglu gwybodaeth bersonol gennych, byddwn yn dweud wrthych sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ac ni fyddwn yn defnyddio eich manylion at unrhyw ddiben arall heb gael caniatâd gennych.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut yr ydym yn prosesu gwybodaeth bersonol, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar . Fel arall, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar ein gwefan , sy’n egluro ein cyfrifoldeb fel rheolydd data.

Os hoffech siarad am hawliau tramwy mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, dylech ddychwelyd y ffurflen erbyn 10.00am ar y dydd Iau cyn y cyfarfod. Os hoffech siarad am eitemau sydd ar agenda cyfarfod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu, dylech ddychwelyd y ffurflen erbyn 10.00am ar y dydd Mawrth cyn y cyfarfod.

 

Anfon y ffurflen

Os oes gennych unrhyw gwestiynau dylech gysylltu â’r canlynol:

Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy

Clerc y Pwyllgor:           Dani French neu Jane Pashley

Ffôn:                             01874 620428 neu 620422
Ebost:                           planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk

Yr Awdurdod a’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu

Clerc y Pwyllgor:           Stephanie Davies neu Gemma Turner

Ffôn:                             01874 620400 neu 620438
Ebost:                           publicspeaking@beacons-npa.gov.uk

Cyfeiriad:  

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu,
Powys
LD3 7HP

Lawrlwythiad Ffurflen

Pa gyfarfod yr hoffech siarad ynddo?
Eich manylion chi
Manylion eraill
rhowch fanylion i ni fel y gallwn wneud y trefniadau angenrheidiol.
Dywedwch wrthym pwy y byddwch yn ei gynrychioli
Ar gyfer eitemau cynllunio yn unig
Os na wnaethoch chi, gallwch barhau i siarad ond hoffem ofyn i chi ddarparu rhagor o fanylion am y pwyntiau yr hoffech eu codi. Gallwch barhau ar ddalen ar wahân o bapur os oes angen. Amlinellwch y prif bwyntiau yr hoffech eu codi:
Cyflwynwch gopi o'ch araith i planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk erbyn hanner dydd ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor.
reCAPTCHA is required.