Hysbysiad o Archwiliad

HYSBYSIR TRWY HYN, yn unol a Deddf Comisiwn Archwilio (Cymru) 2004, a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio, 2014 (fel y diwygiwyd 2018):

Ar Ddydd Llun 26 Gorffenaf i Ddydd Gwener 20 Awst 2021, gan gynnwys y ddau ddyddiad uchod, yn ystod oriau swyddfa arferol bob dydd, y gall unrhyw bersonau sydd a diddordeb wneud cais i’r Adran Gyllid, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HP i gael edrych ar y cyfrifon sydd i’w harchwilio ynghyd a’r holl lyfrau, gweithredoedd, cytundebau, biliau, talebau ac anfonebau sy’n ymwneud a hwy ac i wneud copiau o’r cyfan neu rannau o’r cyfrifon a’r dogfennau gysylltiol.

  1. Ar 23 Awst 2021, rhwng 9 y bore a 4 y prynhawn ac wedi hynny yn ei swyddfa hyd ddiwedd yr archwiliad, fe fydd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar gais unrhyw etholwr Llywodraeth Leol ar gyfer yr ardal y mae’r cyfrifon yn ymwneud a hi, yn rhoi i’r etholwr, neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd, gyfle i holir Archwilydd Cyffredinol am y cyfryw gyfrifan a gall unrhyw etholwr neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd ymddangos gerbron yr Archwilydd Cyffredinol i gynnig gwrthwynebiadau i unrhyw un o’r cyfrifon.
  2. a) ynghylch unrhyw fater y gallai’r Archwilydd Cyffredinol weithredu arnynt o dan Adran 32 Deddf Comisiwn Archwilio (Cymru) 2004; neu
  3. b) ynghylch unrhyw fater y gallai’r Archwilydd Cyffredinol baratoi adroddiad arno er lles y cyhoedd.
  4. Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad, yn ôl y diffiniad yn (2) uchod, oni roddir rhybudd ysgrifenedig am y gwrthwynebiad arfaethedig a’r sail y gwneir arno i bob un o’r canlynol cyn 23 Awst 2021.

Adrian Crompton                                                Catherine Mealing-Jones

Archwilydd Cyffredinol Cymru                         Prif Weithredwr
Swyddfa Archwilio Cymru                                 Swyddfa’r Parc Cenedlaethol    24 Heol y Gadeirlan                                             Plas y Ffynnon
Caerdydd                                                                Ffordd Cambrian
CF11 9LJ                                                                  Aberhonddu
LD3 7HP

DYDDIEDIG 12 Gorffenaf 2021

Treiliau yr Aelodau

Mae manylion y treiliau a dalwyd i Aelodau’r Awdurdod yn 2020/21 yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod hefyd yn www.bannaubrycheiniog.org pan fydd yr archwiliad ar ben.