Gweithio fel Warden Cefn Gwlad

Jon Pimm yw fy enw i ac rwy’n Warden Ardal y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rwyf wedi gweithio gyda’r Awdurdod ers mis Mai 2001, a chyn hynny roeddwn yn Warden gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf hefyd wedi gweithio i Barc Cenedlaethol Northumberland yn y gorffennol.

Rwy’n ystyried fy mod yn ffodus iawn i fod yn gwneud y gwaith hwn a gallu byw a gweithio yn y Parc Cenedlaethol.

Yn fy rôl rwy’n gyfrifol am gynnal a chadw a rheoli’r rhwydwaith hawliau tramwy, rheoli tir sy’n berchen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, cysylltu ag ymwelwyr a thrigolion y parc gan hyrwyddo arferion diogel i fwynhau’r parc, a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y parc.