Gweithio fel Swyddog Prosiect Bioamrywiaeth

Yn dilyn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio ym 1992, fe wnaeth dros 150 o lywodraethau lofnodi ymrwymiad i warchod bioamrywiaeth. Yn y Deyrnas Unedig, cyflawnir hynny drwy Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol sy’n cwmpasu pob awdurdod lleol.

Fel cydlynydd y cynllun, fy ngwaith i yw hwyluso’r ffordd i sefydliad cadwraeth, llywodraeth leol ac unigolion weithio gyda’i gilydd i sicrhau cadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau allweddol.

Mae hyn yn golygu cyfarfod â pherchenogion tir, darparu cyngor ar reoli cynefinoedd, gweithio gyda naturiaethwyr lleol i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r fioamrywiaeth leol, a cheisio adnabod a gweithio o amgylch rhwystrau er mwyn cyflawni gwaith cadwraeth effeithiol yn y Parc Cenedlaethol.