Trefniadau ymsefydlu staff

Bydd pob aelod newydd o staff yn cael ei ymsefydlu ar ei ddiwrnod cyntaf gyda’r Awdurdod. O fewn y chwe mis cyntaf, bydd ein Prif Weithredwr yn amlinellu rôl a dyletswyddau’r Awdurdod, a’r cyfraniad a wneir gan y staff i’r sefydliad.

O fewn y chwe mis cyntaf, cewch eich gwahodd hefyd i fynd ar daith o amgylch y Parc Cenedlaethol a drefnir gan un o’r Rheolwyr Ardal.

Bob blwyddyn mae’r Awdurdod yn annog staff newydd i fynychu cwrs Ymsefydlu Staff Parciau Cenedlaethol yn un o’n Canolfannau Astudio’r Parc Cenedlaethol – naill ai Losehill Hall, Awdurdod Parc Cenedlaethol y Peak District neu Plas Tan y Bwlch, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.