Ein Gweledigaeth

Rydym wedi amlinellu ein nodau a’n gweledigaeth ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf mewn dogfen dan y teitl Cyfeiriadau i’r Dyfodol. [Future Directions]

Mae Cyfeiriadau i’r Dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd dynodiad y Parc Cenedlaethol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n dod â chysyniad cynaliadwyedd i flaen ein meddwl.

Mae Cyfeiriadau i’r Dyfodol yn cyflwyno’n gweledigaeth drwy’r tri maes allweddol canlynol:-

Cadwraeth a Gwella; Hyrwyddo Dealltwriaeth a Chymunedau Cynaliadwy Ffyniannus.

Sut awn ati i gyflawni’r weledigaeth hon?

Cynhyrchwn ddwy ddogfen bwysig iawn sy’n sail i’r holl waith a wnawn:-

1.Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol

2.Yr Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Gwella Blynyddol

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y dogfennau hyn?

Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn gynllun ar gyfer y parc cyfan. Mae’n cynnwys camau gweithredu nid yn unig i bawb sy’n gweithio i’r parc cenedlaethol, ond hefyd i’r sefydliadau partner sy’n gysylltiedig â rheoli tirwedd arbennig iawn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Adroddiadau Blynyddol a’r Cynlluniau Gwella Blynyddol yn gynlluniau ar gyfer y Parc Cenedlaethol fel Awdurdod.  Maent yn cynnwys ein Hamcanion Corfforaethol a’n Targedau Gwaith Allweddol.  Maent hefyd yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad sy’n dweud wrthym pa mor dda rydym yn ei wneud o ran cyflawni ein hamcanion a’n targedau.

Troi’r weledigaeth strategol yn gynlluniau a strategaethau manwl.

Mae’r ddwy ddogfen uchod yn sail i’r holl gynlluniau a strategaethau eraill a gynhyrchwn.