Targedau Gwaith Allweddol

  • Gwella cyflyrau ecolegol tri safle dewisedig trwy reoli rhedyn ac eithin, adfer corsydd a rheoli prysg helyg, a dangos cymhwysedd ehangach y technegau hyn
  • Hwyluso gweithdrefnau ceisio am grant lle bynnag y bo modd, hysbysebu cynllun y Gronfa Adfywio Ffisegol a blaenoriaethu ceisiadau yn erbyn y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl.
  • Drafftio a chyhoeddi Canllaw Dylunio Datblygu Cynaliadwy (‘y Canllaw’) a mabwysiadu Arweiniad Cynllunio Atodol yn seiliedig ar y Canllaw. Yr holl swyddogion cynllunio i sgorio ceisiadau cynllunio gan ddefnyddio’r rhestr wirio cynaliadwyedd yn y Canllaw, a gwneud argymhellion i’r pwyllgor cynllunio yn unol â hynny.
  • Dadansoddi llwyddiant a methiant gwasanaethau cwsmeriaid, ac adolygu canlyniadau arolygon a holiaduron bodlonrwydd ymwelwyr yn rheolaidd, gan nodi tueddiadau a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. Llunio ‘Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid’.
  • Sicrhau Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol diweddar; darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gynhwysiant cymdeithasol / allgau cymdeithasol i aelodau a staff.
  • Gweithredu’r Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol; monitro a gwerthuso deilliannau yn erbyn allbynnau.
  • Amlygu camau ar gyfer gwelliannau hawliau tramwy y gellir eu cymryd o fewn y cyfyngiadau adnoddau presennol; ceisio cyllid ar gyfer gwelliannau nad oes digon o adnoddau ar eu cyfer ar hyn o bryd; ymchwilio i ddichonoldeb nawdd masnachol ar gyfer llwybrau; cynhyrchu hierarchaeth o lwybrau ar gyfer defnydd cerbydau, a thargedu gwelliannau yn y Cynlluniau Gweithredu Ardal.
  • Penodi gwefeistr; sefydlu grŵp adolygu mewnol i lunio a gweithredu cynllun prosiect manwl ar gyfer y wefan; digwyddiad lansio cysylltiadau cyhoeddus mawr ar gyfer y wefan newydd, a sicrhau bod y safle’n cael ei fonitro’n barhaus.
  • Paratoi a gweithredu cynllun gweithredu ac amserlen i ddatblygu’r Seilwaith Llywodraethu Corfforaethol; trwy gyfarfodydd a monitro rheolaidd, ymgysylltu â’r holl staff ac aelodau wrth gyflawni’r Cynllun Busnes Corfforaethol; Cyfranogiad llawn ym mhrosiect meddalwedd System Rheoli Perfformiad Cymru Gyfan; sefydlu gweithgor i ddyfeisio system integredig ymdrin â rheoli dogfennau;
  • Cwblhau trosolwg o’r cylch gorchwyl ar gyfer holl Staff Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Datblygu adnoddau allgymorth ar gyfer y Prosiect Mosaig; ymestyn lledaeniad daearyddol gwasanaethau addysg i dde’r Parc;
  • Ymchwilio i ddichonoldeb cyfleuster gwe ar y cyd ar gyfer tri Pharc Cenedlaethol Cymru er mwyn gwella hygyrchedd; ehangu mynediad i’r Rhaglen Digwyddiadau.
  • Llunio cynllun gweithredu i gyflawni Lefel 4 y Ddraig Werdd.
  • Sefydlu grŵp llywio twristiaeth gynaliadwy i roi arweiniad i ymgynghorydd twristiaeth a benodir, gan sicrhau bod chwe aelod masnachol o’r Bartneriaeth Twristiaeth strategol yn cael eu penodi i’r grŵp; datblygu strategaeth ddrafft a threfnu ymgynghoriad cyhoeddus; cyflwyno cais am y Siarter Twristiaeth Gynaliadwy Ewropeaidd.