Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant Awdurdod

Ymgynghoriad ynghylch Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymrwymedig i Gynhwysiant Cymdeithasol. Mae ardal y Parc Cenedlaethol a gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyflwyno ystod o fanteision posib i grwpiau sydd wedi’u heithrio, gan gynnwys manteision i iechyd a lles. Fe wnaeth Adolygiad annibynnol amlygu meysydd yng ngweithgarwch yr Awdurdod a ddylai gael sylw i gynyddu cynhwysiant ac mae wedi arwain y broses o gyflawni cynlluniau gweithredu Cynhwysiant. Bydd y cynllun 2 flynedd nesaf yn dechrau ym mis Ebrill 2016. Rydym yn ceisio mewnbwn gan gynrychiolwyr grwpiau a all fod â buddiant ar gynnwys fersiwn  drafft y  Chynllun Gweithredu erbyn 6 Ebrill 2016. Byddem yn croesawu’r cyfle i gwrdd â’ch grŵp i drafod sut y gall Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog weithredu i ddwyn manteision y Parc Cenedlaethol i grwpiau ac unigolion sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Bydd crynodeb yn cael ei lunio o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn ogystal ag unrhyw bwyntiau cyffredinol byddem yn croesawu adborth ar y canlynol:

 

  1. A yw’r pedwar maes y rhoddir ffocws (A,B,C,D) arnynt yn y Strategaeth yn briodol? A oes unrhyw feysydd pwysig eraill yng ngweithgarwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle mae angen ffocws ar gynhwysiant yn eich tyb chi?
  2. A yw’r deilliannau (y canlyniadau yr ydym yn eu disgwyl wrth gyflawni’r camau gweithredu) yn briodol ac yn gyraeddadwy?
  3. A yw eich sefydliad neu grŵp wedi cymryd rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau a grybwyllir yn y Cynllun Gweithredu? A oes gennych unrhyw adborth?
  4. A oes gennych unrhyw gynigion ar ein cyfer ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth a allai fod o fudd i grwpiau ac unigolion sydd wedi’u heithrio?

Cysylltwch â mi os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth bellach, os oes arnoch chi neu eich grŵp angen y dogfennau mewn fformat arall, neu pe baech yn croesawu cyfarfod i drafod y  Chynllun Gweithredu.

Clare Parsons 01874 620434

Rheolwr Cymunedau Cynaliadwy.