Safonau yr Iaith Gymraeg

Egwyddorion Arweiniol

Mae dwy egwyddor arweiniol i Fesur y Gymraeg, ac felly i’r modd y bydd y Awdurdod yn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  • Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno.

Sut mae hyn yn effeithio ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?

Mae’r Awdurdod wedi derbyn Hysbysiad Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n dweud sut y bydd disgwyl i’r Awdurdod ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau a rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym Mhowys.

Yn yr Hysbysiad Cydymffurfio, mae Safonau yn ymwneud â:

Cyflenwi Gwasanaeth – e.e. dros y ffôn, defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd, derbynfeydd yr Awdurdod, llythyron a dogfennau, gwasanaethau ar-lein.

Llunio Polisi – asesu effaith polisïau a phenderfyniadau’r Awdurdod ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a meddwl sut y gallai newid y polisïau a’r penderfyniadau i gael gwell canlyniad i’r Gymraeg.

Gweithredu – e.e. sicrhau fod gwybodaeth a gweithdrefnau mewnol ar gael i staff yn Gymraeg, a bod adnoddau a hyfforddiant ar gael i staff i’w helpu i weithio yn Gymraeg. Sicrhau fod gan staff y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Hybu – llunio strategaeth ar gyfer hybu’r Gymraeg a hwyluso’i defnydd yn yr ardal.

Cadw Cofnodion – y cofnodion y bydd angen i’r Cyngor eu cadw yn ymwneud â’r Safonau.

Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2023

Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2022

Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2021

Adroddiad cydymffurfio Safonau Iaith Mehefin 2020

Adroddiad cydymffurfio Safonau’r Gymraeg  2017/2018

Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg 2020 – 2025

Strategaeth Cymraeg yn y Gweithle 2020 – 2025

Cynllun Gweithredu