Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Rydym yn sylweddoli bod gennym gyfrifoldeb pwysig i sicrhau bod ein holl Aelodau, Swyddogion a staff yn hyrwyddo cydraddoldeb, triniaeth deg a chynhwysiant cymdeithasol bob amser. Fel rhan o’r weledigaeth, rydym wedi creu’r ddogfen hon sy’n egluro sut rydym yn bwriadu cyflawni ein dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac sy’n cynnig man cychwyn pendant ar gyfer yr Awdurdod cyfan er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd safonau uchel – a hynny’n deg – ar gyfer ein cymunedau, ein grwpiau defnyddwyr, ein busnesau a’n hymwelwyr.  I wireddu’r weledigaeth honno, rydym yn benderfynol o hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb mynediad yn ogystal â chael gwared ar anghydraddoldeb ym mhopeth a wnawn.

Mae ein gwerthoedd yn rhan ganolog o’r ffordd rydym yn cynnig gwasanaethau’r Parc Cenedlaethol.

Rydym wedi ymrwymo i herio’r ffordd rydym yn gweithio drwy fynd ati mewn ffordd wreiddiol a dynamig i fynd i’r afael â’r materion sy’n cael effaith uniongyrchol ar brofiad pobl o’n Parc Cenedlaethol. Rydym hefyd yn gobeithio datblygu’r cysylltiadau rydym eisoes wedi’u meithrin â grwpiau pobl anabl, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill yn y Parc Cenedlaethol a thu hwnt. Mae gan y grwpiau hyn brofiad a gwybodaeth werthfawr am y Parc, a’n nod yw gwella’r cysylltiadau hyn ymhellach a datblygu rhai newydd sy’n dangos ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth hollbwysig i fywydau gwahanol bobl sy’n dod i gysylltiad â’n Parc Cenedlaethol ac sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Mae’r Cynllun hwn yn ddogfen fyw, ac rydym yn gobeithio y bydd yn datblygu drwy ein hymrwymiad a’n gwaith partneriaeth amlochrog.

Fel rhan o’r adborth rydym yn croesawu sylwadau gan bob unigolyn, sefydliad partner, grŵp defnyddwyr a rhanddeiliad perthnasol, er mwyn i ni allu dylanwadu ar ddatblygiad y Cynllun yn ystod y blynyddoedd i ddod. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.

Cynllyn Cyndraddoldeb Strategol 2020-2024

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Mawrth 2013

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021l Mawrth 2014

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Mawrth 2015

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Mawrth 2016

Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Mawrth 2018