Adroddiad Cyflwr y Parc

Adroddiad Cyflwr y Parc 2020

Pwrpas Adroddiad Cyflwr y Parc 2020 yw rhoi syniad o dueddiadau mewn perthynas â 23 dangosydd o fewn themâu’r Cynllun Rheoli. Bydd y data’n cael ei fonitro a’i ddiweddaru bob 2/3 blynedd.

Gellir gweld yr adroddiad yma.

Pwrpas Adroddiad Cyflwr y Parc yw dangos tueddiadau sy’n berthnasol i:

  • nodweddion, amgylchedd a rhinweddau diwylliannol arbennig y Parc
  • faint o fwynhad o’r rhain sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd, a
  • lles y gymuned leol.

Mae Adroddiad Cyflwr y Parc yn cynnwys y pynciau canlynol:-

  • Cadwraeth a Gwelliannau

Gorchudd coed llydanddail; ffiniau maes traddodiadol; Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) daearegol; rheoli’r parc; ystlumod; magu adar tir fferm; cofebau hynafol rhestredig; adeiladau rhestredig; digwyddiadau diwylliannol.

  • Hyrwyddo dealltwriaeth

Ymwybyddiaeth o’r Parc Cenedlaethol; ymwelwyr yn cael mynediad i wasanaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol; gwasanaethau addysg; boddhad ymwelwyr; hawliau tramwy cyhoeddus; llety i ymwelwyr.

  • Cymunedau bywiog cynaliadwy

Gweithgarwch economaidd; cyflogi yn ôl diwydiant; gwariant twristiaeth; proffil o’r boblogaeth; ffermydd a ffermwyr; lleoliadau cwrdd cymunedol; traffig; llwybrau bysiau ac amledd gwasanaeth.

Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar:-

  • Ffiniau gweinyddol sy’n effeithio ar y Parc Cenedlaethol
  • Ffeithiau a ffigurau cyflwyniadol
  • Perchnogaeth tir

Adroddiad Cyflwr y Parc 2014