Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori gwefan Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol.
Dyma ddiweddariad ar gynnydd Bannau’r Dyfodol, Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol ar gyfer Bannau Brycheiniog.
Rydym wedi gwneud crynodeb o ganlyniadau’r cyfnod ymgynghori mewn adroddiad y gallwch ddod o hyd iddo yma.
Rydym hefyd wedi drafftio cylchlythyr byrrach, sydd i’w weld yma.
Roedd yr ymgynghoriad yn un hir ond yn werth chweil, yn cynnwys casglu barn a syniadau budd ddeiliaid ar ffurflen ar-lein, sylwadau ysgrifenedig a sesiynau trafod manwl.
Trwy’r ymgynghoriad rydym wedi dysgu:
- Doedd yr ymgynghoriad ddim yn ddigon. Rydym wedi methu ymgynghori gyda nifer o grwpiau
- Roedd uchelgais Bannau’r Dyfodol yn ddadleuol, er yn cael ei groesawu gan rai gwelwyd ei fod yn anghyraeddadwy
- Bydd targedau a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lwyddiant
Mae hyn wedi golygu bod newidiadau sylweddol i Fannau’r Dyfodol. Rydym yn symud o gasgliad polisïau i ddeilliannau nodwedd, a fydd yn cynnwys rheolaeth tir cynaliadwy; twristiaeth gyfrifol; cymunedau ugain munud a dod yn ganolfan rhagoriaeth.
O ganlyniad i’n canfyddiadau, byddwn yn cynnal mwy o ymgynghoriadau wedi eu targedu dros yr haf a fydd yn cael ei diweddaru i’r cynllun terfynol a’n gweledigaeth am y 25 mlynedd nesaf. Gobeithio eich bod yn deall ein penderfyniad a’n dyletswydd wrth ymgymryd â’r gwaith.
Gallwch ddod o hyd i’r amserlen wedi ei diweddaru ar gyfer Bannau’r Dyfodol o fewn yr adroddiad ymgynghori.
Gellir lawrlwytho’r ddogfen lawn yma.
Gellir lawrlwytho’r crynodeb o’r ddogfen yma.
Mae’r Awdurdod wedi datblygu Cynllun Rheoli newydd y cyfeirir ato fel Bannau’r Dyfodol. Mae’r cynllun hwn yn nodi cyfres o amcanion a pholisiau i arwain gweithrediad dibenion a dyletswydd y Parc Cenedlaethol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod tirwedd, pobl a threftadaeth naturiol a diwylliannol y parc yn cael eu sicrhau o ddyfodol llewyrchus.
Yn bwysicaf oll, mae’r Cynllun Rheoli yn gynllun ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn sicrhau bod pawb yn y Parc yn cael cyfle i gydweithio â ni i ysgrifennu cynllun a rennir ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddiffinio materion hanfodol ar gyfer dyfodol y Parc Cenedlaethol ac wedi defnyddio’r rhain i ddiffinio’r hyn yr ydym ni fel Awdurdod yn credu y mae hyn yn ei olygu i’r Parc.
Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi CAU. Diolch i bawb a ymatebodd i’r cynllun ac edrychwn ymlaen at ddarllen y sylwadau a’u cymryd i ystyriaeth.
Mae’r dogfennau yn agored ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 17 wythnos rhwng 4ydd Tachwedd 2021 a 4ydd Mawrth 2022.
Mae’r dolenni canlynol i bolisïau ar wahân y Cynllun
Mae copïau o’r Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r Arfarniad Cynaliadwyedd (sy’n ymgorffori’r Adroddiad Amgylcheddol) sydd wedi llywio Cynllun Rheoli drafft y Parc Cenedlaethol hefyd ar gael i wneud sylwadau arnynt drwy gydol yr ymgynghoriad.
Mae’r adroddiadau ar gael isod:
Rheoliadau Cynefinoedd Asesiad o Gynllun Rheoli drafft y Parc Cenedlaethol
Arfarniad Cynaliadwyedd o Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
Ymgynghoriadau yn y gorffennol
CRhPC 21 Ystyriaethau, Gweledigaeth ac Amcanion