Cynlluniau Rheoli’r Parciau Cenedlaethol y gorffennol

Mae’r cynllun yn cydlynu ac yn integreiddio’r holl gynlluniau, strategaethau, a chamau gweithredu eraill o fewn ffiniau’r Parc. Ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniad mawr yn ymwneud â’r Parc heb ystyried cynnwys y Cynllun Rheoli.

Mae’r Cynllun yn amlinellu’r strategaethau 20-mlynedd a’r camau gweithredu 5-mlynedd o safbwynt pawb sy’n cyflawni dibenion neu ddyletswyddau’r Parc neu sy’n ymdrin â dyfodol y Parc. Mae’r Cynllun yn fodd i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu rhoi ar waith, eu monitro a’u gwerthuso’n gydlynol ar draws ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid. Yn ei hanfod, mae’r cynllun yn creu fframwaith o’r egwyddorion ar gyfer rheoli ac arwain y Parc.

Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol 2015 – 2020

Adolygiad o’r Cynllun Rheoli

Cynllun Gweithredu

Fersiwn Gryno o’r Cynllun

Crynodeb Ymgynghori

Dogfennau Ategol

Cynlluniau Rheoli Blaenorol

Adroddiad Cyflwr y Parc

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech gael copi papur neu gopi CD o’r dogfennau hyn, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Tystiolaeth a Pherfformiad, drwy e-bost neu dros y ffôn – ei rif uniongyrchol yw 01874 620465.