Cyrsiau Preswyl ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Cwrs Maes cwricwlwm Disgrifiad o’r cwrs
Archwilio Bwystfilod Bach Gwyddoniaeth Archwilio bwystfilod bach yn unionyrchol mewn cynefinoedd gwahanol.
Creaduriaid o’r Dyfnderoedd Gwyddoniaeth Archwilio’r ffordd y mae rhywogaethau gwahanol yn addasu i’w hamgylchedd.
Mamaliaid y Goedwig Gwyddoniaeth Dysgu am famaliaid y goedwig a’u lle yn y gadwyn fwyd.
Heicwyr Naturiol y Nos Gwyddoniaeth Profi synau ac awyrgylch cefn gwlad yn y nos mewn amgylchedd diogel.
Ffyn Storïau Celf, Llythrennedd Defnyddio deunyddiau naturiol i ail-ddweud eich stori am daith a chreu swfenîr i fynd adref, yn nhraddodiad Brodorion America.
Taith Gerdded Tor y Foel Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth Taith gerdded o dair milltir i ben Tor y Foel.
Helfa Hanesyddol Daearyddiaeth, Hanes, ABGI Datblygu sgiliau map a chwmpawd wrth chwilio am neges o’r gorffennol sydd wedi’i chladdu.
Cerdded y Ddaear Celf, ABGI, Gwyddoniaeth Defnyddio eich holl synhwyrau i adeiladu perthynas wrth deimlo a deall byd natur.
Taith Gerdded y Sgydiau Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth Cwrs diwrnod llawn yn cynnwys taith mewn bws mini, ac wedyn cerdded ar hyd afon Nedd Fechan at Sgwd Gwladys.
Her Goroesi ABGI Cwrs hanner diwrnod neu gyda’r nos yn yr haf. Dysgu plant am ddiogelwch mewn ardaloedd ucheldir gyda gweithgareddau adeiladu tîm difyr.
Archwilio Afonydd Daearyddiaeth Dysgu am y ffordd y mae dŵr wedi ffurfio’r dirwedd gan archwilio a thrafod.
Ymweld â Fferm Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg Ymweld â fferm fynyddig leol a gaiff ei rheoli’n gynaliadwy o dan gynllun amaethyddol Tir Gofal, lle caiff technegau ffermio traddodiadol eu defnyddio.
Diwrnod y Bobl Gynnar Hanes, Daearyddiaeth Profi agweddau ar y ffordd Geltaidd o fyw yng Nghymru ac effeithiau’r ymosodiad Rhufeinig.
Eco-lwybr Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Mathemateg, D a Th, Dinasyddiaeth, ABGI Datblygu ymwybyddiaeth plant ynghylch eu heffaith ar yr amgylchedd gan ddefnyddio dull trawsgwricwlaidd.
Posau a Phroblemau Daearyddiaeth, ABGI, Mathemateg Y plant yn cerdded ar hyd llwybr mewn timau, gan ddatrys problemau a dysgu am ddatblygu cynaliadwy a’r Parc Cenedlaethol ar hyd y ffordd.