Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Mae ysgolion fel arfer yn defnyddio bws. Ewch i barcio’r bws wrth yr argae, gan nad oes modd i gerbyd fynd dros yr argae. Os rhowch alwad ffôn i’r Ganolfan fel yr ydych yn teithio drwy Dalybont, gallwn anfon bws mini i aros amdanoch ar ochr y ffordd i gasglu eich bagiau. Mae taith fer, tua 600 metr, ar droed i lawr at y Ganolfan. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael golwg ar yr ardal a chael mymryn o awyr iach ar ôl y siwrnai ar y bws.

Gorsaf drenau’r Fenni yw’r agosaf tuag 20 milltir o Danywenallt.

Map yn dangos lleoliad y ganolfan astudio