Adnoddau Ysgolion Uwchradd

Pethau i’w gwneud… 

STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) 
Adnoddau gweithgaredd dysgu Clybiau STEM: Addasiadau Anifeiliaid (dogfen PDF i lawr lwytho sy’n addas ar gyfer oedran 7-9), Tudalennau 4 – 9, ‘Byw yn y tywyllwch’. 
https://www.stem.org.uk/system/files/elibraryresources/2020/01/Animal%20Adaptations.pdf 

Tiroedd Ysgol 
Archwiliad amgylcheddol o diroedd yr ysgol am gynefinoedd addas i anifeiliaid y nos.  Gwnewch restr o gynefinoedd / cynefinoedd posibl a’u gosod ar fap o diroedd yr ysgol. 

I wylio anifeiliaid gwyllt, yn ogystal â’u gwylio’n fyw, ystyriwch osod camerâu bywyd gwyllt i gofnodi eu hymweliadau a’u gweithgareddau: https://www.gardenersworld.com/product-guides/nature/best-wildlife-cameras/ 

Camerâu Nature Raspberry Pi: https://www.youtube.com/watch?v=liOH5LUVkWo 

Moch daear 

Cynefin 

Maen nhw’n turio tyllau o dan ddaear, a elwir yn ‘gwalau’, mewn coetir a gwrychoedd.  Mae ganddyn nhw ddiet eang sy’n cynnwys pryfed, cynrhon, pryfed genwair (maen nhw’n gallu bwyta cannoedd pob nos), mamaliaid bychain, amffibiaid, ffrwythau megis afalau, gellyg, eirin ac ysgaw a hyd yn oed fylbiau. 

Fideo Coed Cymru: https://www.woodlandtrust.org.uk/trees-woods-and-wildlife/animals/mammals/badger/ 

Eu gwylio 

Gallwch eu gwylio ar (canllaw gan Darganfod yn y Tywyllwch – Cymru): https://www.discoveryinthedark.wales/cym/brecon-beacons 

Gwylio Moch Daear gyda Gareth Morgan: https://www.youtube.com/watch?v=XNJddQwW9R8 

Eu hannog 

Gallwch annog moch daear i ymweld / byw lle mae yna goed, gwrychoedd a phyllau.  Gallwch eu denu  trwy adael allan fwyd gwlyb cŵn neu gathod, cnau mwnci amrwd neu gnau brasil, ffrwythau, llysiau gwraidd, tatws wedi’u coginio, mwydod a phowlenni o ddŵr croyw. 

‘Peek into the amazing secret life of badgers’, arlunydd bywyd gwyllt, Robert Fuller (fideo’r BBC): https://www.youtube.com/watch?v=dpx70ARAabo 

Ystlumod 

Cynefin   

Coed ac adeiladau.  Mae ystlumod yn byw ar glwydi ac maen nhw angen amodau clwydo gwahanol ar wahanol adegau o’r flwyddyn.  Mae’n well gan rai ystlumod goed gwag, mae rhai’n hoffi ogofau a rhai’n hoffi’r ddau ar wahanol adegau.  Mae llawer o ystlumod yn cysgodi mewn adeiladau, tu ôl i deils a byrddau sy’n hongian neu mewn gofodau yn y to.  Mae bocsys ystlumod hefyd yn cael defnydd da. 

Gwybodaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y Byd: https://www.wwt.org.uk/discover-wetlands/wetland-wildlife/bats/ 

Cyflwyniad i Ystlumod Prydain: https://www.youtube.com/watch?v=gOlRBkc-xK8 

Eu gwylio 

’30 o Ddyddiau Gwyllt’ – canllaw gwylio ystlumod gan Aiden Matthews, Beds., Cambs. & Northants. WT (gyda fideo a dolenni at ddefnydd o ddarganfyddwyr ystlumod, ayb): https://www.wildlifebcn.org/blog/aidan-matthews/30-days-wild-day-twenty-six-top-tips-real-bat-man 

 

Eu hannog 

Gallwch annog ystlumod i ymweld / byw mewn ardal lle mae yna bwll (pryfed fel ffynhonnell o fwyd), blodau sy’n arogli yn y nos, ardaloedd gwyllt, bocsys ystlumod, gwrychoedd a llinellau o goed, cael gwared ar oleuni artiffisial. 

Y Prosiect Gardd Bywyd Gwyllt – Sut i helpu ystlumod yn eich gardd (Michael Walker, Nottinghamshire Bat Group): https://www.youtube.com/watch?v=sj_wMAP45jc 

Adeiladu bocs ystlumod (RSPB): https://www.rspb.org.uk/get-involved/activities/nature-on-your-doorstep/garden-activities/buildabatbox/  

Sianel M ‘Sut i wneud Bocs Ystlumod’ (Salford Ranger team): https://www.youtube.com/watch?v=MLtjLZvrrU8 

Cadnoid 

Cynefin 

Maen nhw’n turio ffeuau a elwir yn ‘ddaerydd’ mewn coetiroedd a gwrychoedd.  Maen nhw hefyd yn anifeiliaid ysglyfaethus ac yn bwyta bron iawn unrhyw beth y maen nhw’n gallu ei ganfod, gan gynnwys pryfed, pryfed genwair, ffrwythau, aeron, adar, mamaliaid bychain, cyrff marw a gweddillion bwyd pobl. 

Y Cadno Coch – The British Mammal Guide (fideo): https://www.youtube.com/watch?v=J4ToHu1MM9E 

Eu gwylio 

Canllaw Bywyd Gwyllt Ar Lein: https://www.wildlifeonline.me.uk/animals/article/red-fox-senses 

‘Mae’r Cadno Coch yn Ymweld Pob Nos’ (fideo): https://www.youtube.com/watch?v=gAZaUwje3kE 

Eu hannog 

Gellir annog cadnoid i ymweld / byw mewn darnau gwyllt mewn gerddi lle mae yna lawer o lystyfiant, yn y gwagle o dan siediau pren a phyllau.  Maen nhw’n gallu cael eu denu gan gyflenwadau o fwyd sy’n debyg i’w diet naturiol, felly, dylid gadael allan iddyn nhw yn bennaf gig amrwd a chig wedi’i goginio, megis bwyd cŵn mewn tun a danteithion megis cnau mwnci, ffrwythau a chaws a phowlen o ddŵr croyw. 

https://blog.fantasticgardeners.co.uk/foxes-in-garden/ 

Draenogod 

Cynefin 

Mae’n rhaid i ddraenogod gael nythod gaeaf effeithlon i aeaf gysgu a goroesi .  Felly, yn yr hydref, maen nhw’n casglu dail, glaswellt, gwellt, brwyn ayb ac yn eu defnyddio i adeiladu nythod o dan wrychoedd, darnau o bren neu domeni o brysglwyni. 

Eu gwylio 

Draenogod Trefol – drama bywyd gwyllt gardd yn y nos: https://www.youtube.com/watch?v=gAZaUwje3kE 

Eu hannog 

Gallwch annog draenogod i ymweld / byw yn rhywle trwy ddarparu gwalau. 

Gofalu am fywyd gwyllt – gwneud tŷ draenog: fideo gan David Domoney (garddwriaethwr): 

Hefyd presenoldeb draenogod mewn gwrychoedd, darnau o bren, tomeni o brysglwyni a deunyddiau adeiladu nyth naturiol.  Darparu powlenni o fwyd ci neu gath (bisgedi mewn tun neu wedi’u malu) a dŵr croyw. 

Hedgehog Mating Rituals/Life of Mammals/BBC Earth (David Attenborough): https://www.youtube.com/watch?v=btY-3ED__Vo 

Gwyfynod 

Cynefin 

Mae’u cynefinoedd yn amrywio yn ôl eu rhywogaethau, ond yn gyffredinol mae’n cynnwys planhigion sy’n blodeuo, planhigion sy’n arogli yn y nos, coed a glaswellt hir.  Fel arfer maen nhw’n cael eu denu at flodau fel y mae gloÿnnod byw er mwyn bwydo ar neithdar ac mae rhai o’u hoff flodau’n cynnwys y goeden fêl, triaglog coch, grug, helygen ac iorwg.  Ond yn ogystal â bwyta gwahanol blanhigion, mae’r siani flewog yn bwyta gwahanol rannau o blanhigion.  Gallai fod llawer o siani flewog ar goeden yn bwydo ar ei dail, un arall ar ei blodau, eto un arall ar ei ffrwythau a gwahanol set yn byw o dan ddaear ac yn bwyta’i gwreiddiau. 

Eu gwylio 

Butterfly Conservation – Fabulous Moths And How To Find Them: https://butterfly-conservation.org/news-and-blog/fabulous-moths-and-how-to-find-them 

Wythnos Genedlaethol y Gwyfyn: https://nationalmothweek.org/finding-moths-2/ 

YouTube ‘How to catch moths’ (Eco Sapien): https://www.youtube.com/watch?v=tA6qrGQE2E8 

Eu hannog 

Gallwch annog gwyfynod i ymweld / byw mewn ardal trwy leihau tirlunio a phlannu rhagor o blanhigion sy’n blodeuo, gan gynnwys rhai gyda blodau sy’n arogli yn y nos megis gwyddfid, jasmin, melyn yr hwyr, berwr y gaeaf a siriol pêr y nos a gadael y glaswellt heb ei dorri.  Bydd taenu planhigion gyda chymysgedd o cola, siwgr brown a thriog hefyd yn denu gwyfynod. 

https://butterfly-conservation.org/how-you-can-help/get-involved/gardening/gardening-for-moths 

Tylluanod  

Cynefin(oedd) 

Tylluan Wen: Coed a hen adeiladau gyda thyllau yn neu ger y to. 

An Introduction to the Barn Owl (fideo gan David Ramsden (Pennaeth Cadwraeth, Ymddiriedolaeth y Dylluan Wen): https://www.youtube.com/watch?v=ohqEquNnzfU 

Tylluan frech: Coed a hen adeiladau gyda thyllau yn neu ger y to. 

Discover Wildlife (BBC): https://www.discoverwildlife.com/animal-facts/birds/facts-about-tawny-owls/ 

Eu gwylio 

Fideos Tylluanod Gwynhttps://www.barnowltrust.org.uk/owl-facts-for-kids/owl-videos/ 

Escape into the Wild – Barn Owl calling (fideo): https://www.youtube.com/watch?v=IGjoknxwbtw 

Wild Tawny Owls at Night (Ian McGuire fideo): https://www.youtube.com/watch?v=TePp82POVp0 

Eu hannog 

Mae tylluanod yn cael eu hannog i ymweld / byw mewn ardal trwy ddarparu bocsys nythu yn, neu ar y tu allan i hen adeiladau neu ar goed.  Mae glaswelltir garw gerllaw yn denu tylluanod i hela mamaliaid bychain. 

Making barn owl nest boxes (canllaw’r RSPB): https://www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/advice/how-you-can-help-birds/nestboxes/nestboxes-for-owls-and-kestrels/barn-owl-nest-boxes/ 

How to Choose the Best Barn Owl Nest Box Design: Fideo YouTube gan David Ramsden (Pennaeth Cadwraeth, Ymddiriedolaeth y Dylluan Wen): https://www.youtube.com/watch?v=zr8qLyAFl_k 

Canllawiau’r RSPB ar wneud nyth tylluan frech): https://www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/advice/how-you-can-help-birds/nestboxes/nestboxes-for-owls-and-kestrels/tawny-owl-boxes/ 

Project nest boxes new Tawny Owl nest box (Richard Lloyd Evans): https://www.youtube.com/watch?v=Xh4HBpGOl_8 

Peledi tylluanod 

Mewn adareg peled yw clwstwr o fwyd heb ei dreulio y mae aderyn yn ei gyfogi. Mae cynnwys y peled yn dibynnu ar ddiet yr aderyn.  Gellir astudio peled i ganfod beth mae’r aderyn wedi’i fwyta ac mae’n gallu cynnwys darnau o blanhigion anhreuliadwy a rhannau o gorff creaduriaid mae’r aderyn wedi’u bwyta megis plu, pig, crafangau, ecsosgerbydau pryfed, ffwr, esgyrn a dannedd. 

‘Beth yw peledi tylluannod?’ (Ymddiriedolaeth y Dylluan Wen): https://www.barnowltrust.org.uk/owl-facts-for-kids/owl-pellets/ 

Peledi Tylluan (RSPB): http://ww2.rspb.org.uk/Images/Owlpellets_tcm9-133500.pdf 

Beth am gael peledi tylluan eich hunain i’w hastudio? (gallwch brynu peledi ar lein o amrywiaeth o wefannau).  

Defnyddio ynni mewn ysgolion yn ystod oriau’r tywyllwch 

Cynhaliwch archwiliad o’r defnydd o ynni yn ystod y nos yn yr ysgol ac awgrymu sut y gallwch wella effeithlonrwydd ynni. 

Dysgu Cynaliadwy – ‘Cyfrifiannell Defnyddio Ynni’: https://www.sustainablelearning.com/resource/energy-use-calculator 

‘Ysgolion – Dysgu i wella effeithiolrwydd ynni’ (Ymddiriedolaeth Carbon): https://czone.eastsussex.gov.uk/media/1952/ctv019-schools-overview.pdf 

Cytserau gyda chysylltiadau â natur sy’n weladwy yn hemisffer y gogledd yn awyr yr hydref 

Chwiliwch am y cytserau hyn yn awyr y nos, edrychwch a allwch chi weld yr anifeiliaid maen nhw i fod yn eu cynrychioli a chanfod 3 darn defnyddiol o wybodaeth am bob un o’r creaduriaid rydych wedi’u hadnabod. 

Cygnus – Lladin – Groeg am ‘alarch’. 

Delphinus – Lladin am ‘ddolffin’. 

Ursa Major – Lladin am ‘yr arthes fwyaf’. 

Ursa Minor – Lladin am ‘arth bach’. 

Dolenni at arbenigwyr mewn awyr dywyll 

Dark Sky Wales/ Awyr Dywyll Cymru: https://darkskywalestrainingservices.co.uk/ 

Dark Sky Discovery: https://www.darkskydiscovery.org.uk/ 

Map llygredd golau: https://www.lightpollutionmap.info/#zoom=6.58&lat=51.6812&lon=-0.8681&layers=B0FFFFFFTFFFFFFFFFF 

Royal Astronomical Society: https://ras.ac.uk/ 

Dolenni i sefydliadau 

  • Arfordir Penfro: https://www.arfordirpenfro.cymru/
  • Badger Trust: https://www.badgertrust.org.uk/
  • Barn Owl Trust: https://www.barnowltrust.org.uk/
  • Bat Conservation Trust: https://www.bats.org.uk/
    (National Bat Monitoring Programme): https://www.bats.org.uk/our-work/national-bat-monitoring-programme
  • British Hedgehog Preservation Society: https://www.britishhedgehogs.org.uk/
    Hedgehog Helpline: http://hedgehoghelplinecymru.org.uk/contact-us/w
  • Butterfly Conservation (Wales): https://butterfly-conservation.org/in-your-area/wales-office-0
    (‘All About Moths’ (Butterfly Conservation)): https://butterfly-conservation.org/sites/default/files/all-about-moths_young-people-leaflet.pdf and https://butterfly-conservation.org/moths
  • National Moth Night (Citizen Science event): www.MothsCount.org
  • Cadw: https://cadw.gov.wales/
  • Coed Cadw: https://www.woodlandtrust.org.uk/about-us/where-we-work/cymru/
  • Conservation Biologists: www.EcoSapien.org
  • Cyfoeth Naturiol Cymru: https://naturalresources.wales/?lang=cy
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol: https://www.nationaltrust.org.uk/
  • Parc Cenedlaethol Eryri: https://www.eryri.llyw.cymru/
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: https://www.bannaubrycheiniog.org/
  • Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru: https://www.biodiversitywales.org.uk/Cartref
  • Wales Biodiversity Partnership: https://www.biodiversitywales.org.uk/
  • People’s Trust for Endangered Species: https://ptes.org/get-informed/facts-figures/red-fox/ 
  • RSPB Cymru: https://www.rspb.org.uk/cy/about-the-rspb/at-home-and-abroad/cymru/
  • The Barn Owl Trust: https://www.barnowltrust.org.uk/about-the-barn-owl-trust/barn-owl-trust-projects/
  • Wildfowl and Wetlands Trust: https://www.wwt.org.uk/
    WWT Llanelli: https://www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/
  • Wildlife Trusts Wales: https://www.wtwales.org/ and https://www.wtwales.org/cy 
  • Worldwide Fund for Nature (WWF): https://www.wwf.org.uk/
    WWF Cymru: https://www.wwf.org.uk/about-wwf-cymru