Diolch: am ddiogelu ein Parciau Cenedlaethol

Pecyn cymorth ymgyrchu i randdeiliaid – a gyflwynir i chi gan Barciau Cenedlaethol Cymru

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn derm a ddefnyddir ar gyfer tri Pharc Cenedlaethol Cymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y rhai sy’n ymweld â’r tri Pharc Cenedlaethol – mae’n debyg mai’r rheswm dros hyn yw’r angen am ddihangfa yng nghefn gwlad yn ystod y pandemig ac yn dilyn y pandemig.

Fodd bynnag, rydym wedi gweld bod llawer o’r rheiny sy’n ymweld yn newydd i’r math hwn o amgylchedd ac yn anghyfarwydd â chanllawiau’r Cod Cefn Gwlad.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn cyn tymor yr haf, rydym wedi lansio ymgyrch – “Diolch” – a fydd yn ymdrechu i addysgu a diolch ymwelwyr am ymddwyn yn gyfrifol ym Mharciau Cenedlaethol Cymru.

Gan ymdrin â phopeth o fod yn gyfrifol wrth fynd â chŵn am dro, i reolau ynghylch cael barbeciw; gwersylla, taflu sbwriel; ac ymddygiad wrth barcio, rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn darbwyllo ymwelwyr ledled Cymru ac yn ein helpu yn ein cenhadaeth i ddiogelu’r amgylchedd a chymunedau Parciau Cenedlaethol Cymru. 

Ond mae angen eich help arnom.

Ceir dolen isod i lawrlwytho pecyn cymorth sy’n cynnwys graffeg ymgyrchu a chapsiynau cyfryngau cymdeithasol. Mae croeso i chi rannu’r rhain ar eich cyfryngau cymdeithasol a/neu’ch gwefannau, p’un a ydych yn gweithio i sefydliad sector cyhoeddus neu i fusnes lleol.

Diolch ymlaen llaw am eich help. 

Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu harddwch Parciau Cenedlaethol Cymru.

Edrychwch ar becyn cymorth ymgyrch Diolch