Y Garn Goch

Erbyn hyn, mae’r Garn Goch, sef safle anheddiad mawr o’r Oes Haearn ger tref Llandeilo, yn teimlo’n dawel ac yn anghysbell. Fodd bynnag, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, byddai’r pen bryn hwn wedi bod yn ganolfan ffyniannus lle’r oedd pobl yn byw ac yn gweithio, lle’r oedd bwyd yn cael ei dyfu, a lle’r oedd nwyddau’n cael eu cynhyrchu a’u masnachu.  Ar un adeg, roedd ei amddiffynfeydd mawr cerrig, sydd bellach yn glawdd rwbel mawr, yn sefyll fel rhagfuriau ag wyneb carreg 10m o uchder a 5m o drwch. Byddent wedi cynnig amddiffyniad rhag peryglon naturiol, fel bleiddiau gwyllt, a rhag pobl eraill yn ystod rhyfeloedd.

 

Mae olion dwy fryngaer ar y safle hwn; mae’r Gaer Fach yn eistedd yng nghysgod ei chymydog fwy a mwy trawiadol o lawer, y Gaer Fawr.  Mae’r gaer lai, y Gaer Fach, yn amgáu ardal o oddeutu 1.5 hectar.  Nid yw mewn cyflwr da ac mae’n ymddangos na lwyddwyd i orffen y gwaith adeiladu – efallai bod y gwaith wedi dod i ben hanner ffordd drwy raglen ailadeiladu ac ni chwblhawyd y gwaith erioed.  Mae’r gaer hon yn fychan iawn o’i chymharu â’r Gaer Fawr gerllaw, sydd â rhagfuriau carreg anferth ac o leiaf 6 mynedfa ar wahân.  Y fryngaer fawr hon, sy’n gorchuddio oddeutu 11.2 hectar, yw un o’r mwyaf ledled Cymru.  Byddai’r gaer drawiadol hon wedi bod yn werth ei gweld – un o ‘skyscrapers‘ ei chyfnod! Roedd yn arwydd o bŵer a statws y rhai a’i hadeiladodd.

 

Er bod llawer o bobl wedi dehongli’r hyn a adawyd ar ôl gan bobl yr Oes Haearn y safle ysblennydd hwn, nid oes unrhyw un yn sicr beth oedd union fwriad yr aneddiadau amddiffynnol hyn.  Ai strwythurau amddiffynnol yn unig oedd y rhain i’w defnyddio yn ystod gwrthdaro a rhyfela?  A oeddent yn drefi ac yn ganolfannau masnach lle’r oedd preswylwyr parhaol yn byw, neu’n ganolfannau crefyddol neu ddefodol?  A oeddent yn cyflawni nifer o swyddogaethau ac yn bethau gwahanol i bobl wahanol?  Beth am ymweld â’r safleoedd i’w gweld drosoch chi’ch hun ac ymuno â ni i ddehongli a dyfalu swyddogaeth yr etifeddiaeth odidog hon o’r Oes Haearn?

 

Mae’r ddwy gaer yn hawdd eu cyrraedd o faes parcio bychan ar droed y bryn, a bydd y llwybr clir yn mynd â chi at y Gaer Fach i ddechrau ac yna ymlaen i’r Gaer Fawr.  Wrth i chi ddilyn y llwybr i’r caerau, dychmygwch y bobl lu a wnaeth y siwrnai hon yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, i ymweld â’r gaer, cael lloches yna, masnachu, dod o hyd i fwyd a dŵr, neu gysgod am y noson ar eu teithiau.  Mae’r ddwy gaer ar ben y bryn ac mae’r golygfeydd yn ardderchog.  Dylai unrhyw ymwelydd dreulio munud neu ddwy yn astudio’r golygfeydd hyn, gan gofio y byddai ein cyndeidiau wedi sefyll yn yr un man 2,500 o flynyddoedd yn ôl ac edrych ar olygfa debyg iawn; tynnwch ffiniau modern y caeau, y ffermydd a’r pontydd a dychmygwch dirwedd yr Oes Haearn – yr afon yn llifo ar hyd dyffryn agored a’r bryniau’n codi yn y pellter, ynghyd ag ambell i anheddiad gwasgaredig â thai crwn, llociau anifeiliaid a thir amaeth.  Yn wir, mae hwn yn llecyn lle mae’r gorffennol yn teimlo’n agosach nag yr ydych chi’n meddwl.