Treftadaeth Adeiledig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae gennym gyfoeth o dreftadaeth adeiledig sydd ag ystod eang o bensaernïaeth bwysig, gan gynnwys cestyll Normanaidd a ffermdai canoloesol, crynoadau o adeiladau o’r 17eg a’r 18fed ganrif yn y prif aneddiadau, a gwasgariad o adeiladau gwledig cain iawn sy’n aml yn cynnwys nodweddion gwreiddiol.  Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bron i 2,000 o Adeiladau Rhestredig, adeiladau o bwysigrwydd cenedlaethol, a phedair Ardal Gadwraeth, ardaloedd o bwysigrwydd cenedlaethol o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, yn ogystal â miloedd o adeiladau ac aneddiadau niferus sydd o bwysigrwydd lleol neu ranbarthol.

 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn chwarae rhan hanfodol mewn cadw ein hadeiladau, trefluniau ac aneddiadau hanesyddol trwy sicrhau bod datblygiadau newydd yn ein hardaloedd hanesyddol neu newidiadau i’n hadeiladau hanesyddol yn gynaliadwy ac yn gyson, ac nad oes unrhyw wybodaeth bwysig am y gorffennol yn cael ei cholli.  Nid atal newid yw diben hyn, ond sicrhau y caiff nodweddion pwysig ein hadeiladau hanesyddol a chymeriad nodedig ein haneddiadau eu cadw i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.