Ardal Gadwraeth Crucywel a Llangatwg

Mae gennym ni, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyfoeth o dreftadaeth adeiledig gydag amrywiaeth eang o bensaernïaeth bwysig, gan gynnwys cestyll Normanaidd a ffermdai canoloesol, casgliadau o adeiladau o’r 17eg a’r 18fen ganrif yn y prif anheddau ac adeiladau gwledig hynod gain yma ac acw, yn aml gyda’u nodweddion gwreiddiol yn dal yno.   Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bron i 2000 o Adeiladau Rhestredig o bwysigrwydd cenedlaethol a phump Ardal Gadwraeth, ardaloedd o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd eu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, yn ogystal â miloedd o adeiladau a llawer o anheddau sydd o bwysigrwydd rhanbarthol neu leol.

 Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn chwarae rhan bwysig mewn cadw ein hadeiladau, trefweddau a’n setliadau trwy wneud yn siŵr fod datblygiadau newydd yn ein hardaloedd hanesyddol neu newidiadau i’n hadeiladau hanesyddol yn gynaliadwy ac yn cydweddu, ac nad oes unrhyw wybodaeth bwysig ynghylch y gorffennol yn cael ei golli.   Nid ymgais i rwystro newid yw hyn, ond i sicrhau fod nodweddion pwysig ein hadeiladau hanesyddol a chymeriad arbennig ein setliadau’n cael eu cadw i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Ardaloedd Cadwraeth Crughywel a Llangatwg

 Yn 2019, adolygwyd Ardal Gadwraeth Crughywel a Llangatwg a chyhoeddwyd arfarniadau ardaloedd cadwraeth drafft ar gyfer ymgynghori fis Tachwedd 2019, a chynhaliwyd arddangosfeydd fis Ionawr 2020.  Roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhelliad i rannu’r ardal gadwraeth bresennol, sy’n cynnwys y ddau anheddiad, yn ddwy fel bod gan Grughywel a Llangatwg eu hardaloedd cadwraeth eu hunain.   Yn ogystal â rhannu’r ardal gadwraeth bresennol, mae’r adolygiad hefyd yn cynnig newidiadau i ffiniau’r ardal gadwraeth drwy dynnu rhai ardaloedd allan ac ymestyn rhai. .  Ar ôl ychydig o newidiadau ar ôl derbyn ymatebion i ymgynghori, cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y mapiau ffiniau arfaethedig ar gyfer y ddwy ardal yn ei gyfarfod ar 19 Awst 2019. Gellir llawrlwytho’r dogfennau a’r mapiau drwy’r dolenni isod.

Crughywel

Gwneir y newidiadau canlynol i ffiniau Ardal Gadwraeth Crughywel:

  • Cynnwys rhan o Llanbedr Road a Rectory Road a Safle Bicnic Bullpit.
  • Tynnu allan ystadau tai Glan Yr Afon a Llys Yr Afon, Castle Road.

Llangatwg

Gwneir y newidiadau canlynol i ffiniau Ardal Gadwraeth Llangatwg:

  • Cynnwys tir i’r gogledd a’r gogledd-orllewin i’r Old Rectory, gan gynnwys Tŷ Gardd.
  •  Dileu aneddiadau ar ochr dde Park Drive.