Adeiladau Rhestredig

Beth yw Adeilad Rhestredig a pham eu bod yn bwysig?

Adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol sydd â phwysigrwydd cenedlaethol yw Adeiladau Rhestredig. Pan mae adeilad yn cael ei Restru, mae’r statws hwn yn cynnwys ei wyneb allanol, ei nodweddion mewnol, unrhyw adeiladau o fewn ei libart, ac unrhyw adeiledd ynghlwm â’r adeilad. Er mwyn i adeilad gael ei Restru mae’n rhaid iddo gael ei dybio’n bwysig yn ôl meini prawf arbennig, gan gynnwys:

Diddordeb pensaernïol – ei bensaernïaeth, dyluniad, cynllun, crefftwaith, deunyddiau a’r technolegau a ddefnyddwyd

Diddordeb hanesyddol – ei gysylltiadau ag agweddau o hanes cenedlaethol;

Ei gysylltiadau hanesyddol – ei gysylltiadau â phobl bwysig neu ddigwyddiadau hanesyddol;

Ei werth mewn grŵp – ei gysylltiad ag adeiladau ac eraill.

Yr hynaf yw adeilad y mwyaf tebygol y bydd yn cael ei restru. Mae pob adeilad sydd wedi goroesi wrth gadw rhywbeth yn agos at ei ffurf wreiddiol ac wedi’u hadeiladu cyn 1700 yn debygol o gymhwyso am statws Rhestredig. Os yw adeilad wedi’i godi rhwng 1840 a 1914 mae’n rhaid iddo fod o ansawdd eithriadol o uchel. Fodd bynnag, gall unrhyw adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, dim ots beth yw ei oed, gael ei ystyried ar gyfer Rhestru.

Mae penderfyniadau ynghylch pa adeilad ddylai gael ei restru a’r gwaith cynnal a chadw Rhestr yr Adeiladau yn ddyletswydd gyfreithiol Llywodraeth Cymru. Mae yna 3 gradd o adeiladau rhestredig:

Gradd I:

Mae’r rhain yn adeiladau sydd â phwysigrwydd rhyngwladol ac o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol eithriadol. Dim ond 2% o bob Adeilad Rhestredig yng Nghymru sydd â statws Gradd I

Gradd II*:

Y rhain yw’r adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol fwy nac arbennig. Dim ond 7% o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru sydd â statws Gradd II*.

Gradd II:

Mae’r rhain yn adeiladau â phwysigrwydd cenedlaethol neu o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae’r rhan fwyaf o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru â statws Gradd II.

Sut mae Adeiladau Rhestredig yn cael eu hamddiffyn?

Mae Adeiladau Rhestredig wedi’i hamddiffyn yn gyfreithiol gan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, wedi’i hatodi â chanllawiau sydd i’w cael mewn cylchlythyrau Swyddfa Cymru 61/96 a 1/98. Yn ôl y ddeddfwriaeth hon mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol i sicrhau cadwraeth Adeiladau Rhestredig yn eu hardaloedd drwy reoli gwaith ac adnewyddiadau i Adeiladau Rhestredig drwy’r gyfundrefn Caniatâd Adeilad Rhestredig a drwy reoli datblygu a chaniatâd cynllunio.

Lle allaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig, y broses Rhestru a Chaniatâd Adeilad Rhestredig drwy fynd i adran berthnasol gwefan Cadw.