Treftadaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gallwn weld yr etifeddiaeth y mae pobl y gorffennol wedi’i gadael i ni ar draws y Parc Cenedlaethol yn ein treftadaeth archaeolegol gyfoethog a’n hadeiladau a’n haneddiadau hanesyddol.  Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i gyfoeth o archaeoleg o gylchoedd cerrig a siambrau claddu cynhanesyddol, bryngeyrydd o’r Oes Haearn, gwersylloedd Rhufeinig, cestyll Canoloesol ac olion ein hanes diwydiannol.  Mae’r ystod eang o bensaernïaeth drawiadol a phwysig a welwch ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o’n hadeiladau gwledig hardd i’n trefluniau hanesyddol, hefyd yn dystiolaeth o etifeddiaeth ddiwylliannol bwysig y Parc Cenedlaethol.

 

Yn yr adran hon o’r wefan, gallwch ddysgu am dreftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys ein hadeiladau hanesyddol, ein harchaeoleg, ein parciau a gerddi a’n tirweddau hanesyddol.  Gallwch ddarganfod sut mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio i ofalu am yr olion pwysig hyn o’r gorffennol, a’r hyn y gallwch ei wneud i’n helpu.  Gallwch archwilio ein Map Treftadaeth Rhyngweithiol, dysgu am Heneb y Mis, a dod o hyd i Dynfeydd Treftadaeth cyffrous o gwmpas y Parc Cenedlaethol i chi ymweld â nhw a’u harchwilio eich hunan.