Adeiladau Rhestredig a Chaniatâd Adeilad Rhestredig

At beth y mae Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ofynnol?

Bydd caniatâd adeilad rhestredig yn ofynnol ar gyfer unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar gymeriad Adeiladau Rhestredig, boed yn hanesyddol, yn bensaernïol neu o ran colli ffabrig hanesyddol.

Mae’n annhebygol y bydd caniatâd yn ofynnol ar waith atgyweirio neu gynnal a chadw cyffredinol sy’n cael ei wneud mewn modd ‘tebyg am debyg’ (sef defnyddio’r union yr un deunyddiau a dyluniad).

Am fod y gyfraith yn gymhleth, os ydych yn ansicr o gwbl a ydy caniatâd yn ofynnol ar y gwaith sydd gennych mewn golwg, cysylltwch â Swyddog Cadwraeth Adeiladau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (mae manylion ar waelod y dudalen).

Sut mae ymgeisio am Ganiatâd Adeilad Rhestredig?

Bydd angen ichi lenwi ffurflen i ymgeisio am ganiatâd a darparu nifer o ddarnau ychwanegol o wybodaeth. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy’r Porth Cynllunio.

Ar y cyfan, mae’n ddoeth cael pensaer neu weithiwr proffesiynol arall sydd â phrofiad o weithio gydag adeiladau hanesyddol i roi arweiniad ichi a’ch helpu i lunio cais addas. Wrth ymgeisio am Ganiatâd Adeilad Rhestredig i wneud newidiadau neu estyniadau, dylech sicrhau bod eich cais yn cynnwys digon o wybodaeth i’n galluogi ni, Awdurdod y Parc Cenedlaethol, i lawn asesu effaith debygol y gwaith ar yr Adeilad Rhestredig. Os nad anfonir yr holl wybodaeth, mae’n bosibl y caiff y cais ei oedi neu hyd yn oed ei ddychwelyd i chi. Ni chodir tâl am gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

Nodyn cyfarwyddyd

Cyngor cyn ymgeisio ar Ganiatâd Adeilad Rhestredig

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol gynllun cyn ymgeisio lle gallwch holi am gyngor ar dderbynioldeb unrhyw gynlluniau ar gyfer yr Adeilad Rhestredig cyn gwneud cais ffurfiol. Mae tâl bychan am y gwasanaeth hwn.

Mae Llywodraeth Cymru a Cadw yn cynghori y dylid gofyn am gyngor cyn ymgeisio ynghylch cynlluniau am newidiadau i Adeiladau Rhestredig.

Sut mae cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn cael ei asesu?

Nid yw gwarchodaeth Adeiladau Rhestredig yn golygu y cânt eu ffosileiddio mewn amser, ond bod rhaid i unrhyw newidiadau barchu cymeriad a diddordeb arbennig yr adeilad. Fodd bynnag, dylai cynigion i newid Adeiladau Rhestredig fod yn gwbl seiliedig ar ddealltwriaeth briodol o’r adeilad a sut y gallai’r newidiadau effeithio ar ei gymeriad. Mae cymeriad arbennig Adeilad Rhestredig yn werthfawr a gall fod yn sensitif i’r newid lleiaf. Mae’n hanfodol felly fod unrhyw waith a wneir ar adeilad rhestredig yn parchu cymeriad hanesyddol yr adeilad a’i safle.

Datganiadau Effaith ar Dreftadaeth

O 1 Medi 2017 bydd Datganiad Effaith ar Dreftadaeth yn ofynnol i gefnogi unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth. Bydd y Datganiad Effaith ar Dreftadaeth yn disodli’r Datganiad Dylunio a Mynediad yn y broses o ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig.

Eglurir y gofyniad hwn yn Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2017 (SI 2017/638).

Mae canllaw i baratoi Datganiad Effaith ar Dreftadaeth ar gael yn Nogfen Cadw: Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru <http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/historicenvironment/20170531Heritage%20Impact%20Assessment%20in%20Wales%2026917%20EN.pdf>. Anelir hwn yn bennaf at berchenogion a deiliaid asedau hanesyddol a’u hasiantau, ond bydd hefyd yn tywys Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrth ffurfio polisïau ac ystyried ceisiadau am waith i asedau hanesyddol.

Sylwch y bydd Datganiad Dylunio a Mynediad yn ofynnol o hyd i gefnogi ceisiadau cynllunio yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon neu mewn ardal gadwraeth am un neu ragor o anheddau neu lle cynigir creu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr (crynswth) neu ragor. Mae canllawiau pellach ar gael yn Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru

Mae Cynulliad Cymru a Cadw wedi llunio nifer o ddogfennau cyngor ac arweiniad a allai fod o gymorth ichi. Mae’r dolenni isod:

Caniatâd Adeilad Rhestredig ac Esemptiad Eglwysig

Nid oes rhaid i adeiladau rhestredig sy’n eiddo i chwe enwad ‘esempt’ ddilyn y broses Caniatâd Adeilad Rhestredig seciwlar. Yn hytrach, mae Cadw wedi cytuno â phob enwad y caiff gymeradwyo newidiadau i fannau addoli rhestredig yn unol â rheolaethau a roddwyd ar waith gan yr enwad hwnnw. Y sail i’r esemptiad a fwynheir gan bob un o’r enwadau cymeradwy yng Nghymru yw bod gan bob un ei brosesau mewnol ar waith sy’n darparu rhywfaint o graffu ar waith arfaethedig, a’r craffu hwnnw o leiaf cystal â’r rheolaethau seciwlar cyfatebol a weithredir drwy awdurdodau cynllunio lleol. Gelwir hyn yn esemptiad eglwysig a’r enwadau ‘esempt’ yng Nghymru yw:

  • Yr Eglwys yng Nghymru
  • Eglwys Loegr
  • Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru
  • Yr Eglwys Gatholig
  • Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig
  • Yr Eglwys Fethodistaidd

Mae manylion yr esemptiad a’r rheolaethau a weithredir gan yr enwadau priodol yn cael eu cynnwys yng ‘Ngorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994’ a ‘The Ecclesiastical Exemption – What is it and How it Works’ yn ôl eu trefn.

Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol i’r angen am Ganiatâd Cynllunio ac efallai bydd Caniatâd Cynllunio’n ofynnol ar waith arfaethedig a allai effeithio ar olwg yr adeilad.

Dim ond yr adeilad ei hun a ddefnyddir at addoli sy’n cael ei gynnwys gan yr esemptiad, nid unrhyw adeiladau na strwythurau atodol. Os oes newidiadau wedi’u cynllunio i unrhyw un o’r rhai y soniwyd amdanynt eisoes neu o fewn cwrtil yr adeilad, efallai bydd Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ofynnol.

Os ydych yn ansicr o gwbl a fydd Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ofynnol, cysylltwch â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladau ar y manylion isod.

Manylion Cyswllt

Janet Poole, Uwch Swyddog Treftadaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol)

planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk